Mae Cyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o rai disgowntiau a phremiymau’r Dreth Gyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol.
Ein hadolygiad
Mae’r cyngor wedi penodi Infoshare (Datatank), cwmni arbenigol mewn dadansoddi data, i gynorthwyo gyda’r gwaith o adolygu:
- Disgownt Person Sengl (SPD) – gostyngiad o 25% i aelwydydd lle mae un oedolyn yn unig yn byw
- Premiymau’r Dreth Gyngor – tâl ychwanegol ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi
Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys cymharu cofnodion y Dreth Gyngor yn ddiogel â ffynonellau data allanol i nodi unrhyw anghysondebau neu newidiadau mewn amgylchiadau.
Bydd pobl sy'n cael gostyngiad y Dreth Gyngor yn parhau i gael y gostyngiad os ydyn nhw'n dal i fod â hawl iddo.
Pam rydym yn gwneud hyn
Mae’n bwysig bod y Dreth Gyngor yn cael ei chodi’n gywir ac yn deg.
Mae’r adolygiad hwn yn helpu i sicrhau bod:
- disgowntiau’n cael eu cymhwyso’n gywir
- premiymau’n cael eu codi lle bo’n briodol
- cyllid cyhoeddus yn cael ei ddiogelu
Efallai y cewch lythyr
Gwybodaeth bwysig am lythyrau y gallech eu derbyn
Efallai y bydd rhai trigolion yn derbyn llythyr a anfonir ar ran y cyngor gan Infoshare (Datatank). Gall y llythyrau hyn gynnwys y cyfeiriad dychwelyd canlynol:-
PO Box 2195
Livingston
EH54 0NU
Gallwn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth o’r cyfeiriad hwn yn ddilys ac yn rhan o broses adolygu swyddogol y cyngor. Nid sgâm mohono.
Diogelu data
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Bydd Infoshare (Datatank) yn prosesu data ar ran y cyngor yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac at ddibenion yr adolygiad hwn yn unig.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Os caiff eich cyfrif ei ddewis ar gyfer adolygiad, efallai y byddwch yn derbyn llythyr neu ebost yn gofyn i chi gadarnhau eich amgylchiadau presennol. Os cysylltir â chi, ymatebwch cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda. Os yw eich amgylchiadau wedi newid, yna rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Sut i gwblhau’r adolygiad
Ar-lein
Byddwch angen eich:
- Rhif cyfrif Treth Gyngor
- Rhif PIN
Bydd y ddau rif wedi’u cynnwys yn y llythyr yr ydych wedi’i dderbyn gennym.
Cwblhau adolygiad gostyngiad person sengl ar-lein
Ffurflen bapur
Gallwch hefyd gwblhau’r ffurflen bapur sydd ynghlwm i’r llythyr adolygu. Mae’n dweud ar y ffurflen sut y gallwch ei hanfon yn ôl atom.
Neges destun
Gallwch ateb drwy neges destun. Bydd eich llythyr yn egluro sut allwch chi wneud hyn.
Mwy am yr adolygiad person sengl
Bydd pobl sy'n cael gostyngiad y Dreth Gyngor yn parhau i gael y gostyngiad os ydyn nhw'n dal i fod â hawl iddo.
Pam eich bod wedi derbyn llythyr adolygu
Rydych wedi derbyn llythyr adolygu am eich bod yn hawlio gostyngiad person sengl y Dreth Gyngor ar hyn o bryd gan mai chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn eich cyfeiriad.
Mae gennym ddyletswydd i sicrhau eich bod yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y gostyngiad hwn.
Efallai bod eich amgylchiadau wedi newid. Er enghraifft:
- mae oedolyn arall yn byw yn eich cartref
- mae plentyn wedi troi’n 18 oed
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn gostyngiadau eraill
Mae’n bosib na fyddwch yn gymwys i barhau i dderbyn y gostyngiad person sengl am fod plentyn sy’n byw yn eich cartref wedi troi’n 18 oed.
Os yw’r person ifanc:
- dal yn yr ysgol
- newydd adael addysg llawn amser
- mewn coleg neu brifysgol
yna mae’n bosib y gallwn roi gostyngiad gwahanol yn erbyn eich cyfrif.
Edrychwch ar ein tudalen gostyngiadau ac eithriadau
Os nad ydych yn cwblhau’r adolygiad
Byddwn yn anfon llythyr atgoffa atoch 3 wythnos yn dilyn y llythyr cyntaf, fydd yn rhoi 3 wythnos ychwanegol i chi gwblhau’r adolygiad.
Os nad ydych yn cwblhau’r adolygiad byddwn yn rhagdybio bod eich amgylchiadau wedi newid a byddwn yn dileu’r gostyngiad ac yn anfon bil newydd atoch.
Gadael i ni wybod am newid yn eich amglychiadau
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym os yw eich amgylchiadau’n newid ac nad oes hawl gennych bellach i ostyngiad.
Mae hawliadau drwy dwyll am ostyngiadau’n cynyddu costau i bawb sy’n talu’r Dreth Gyngor.