Cyngor Sir Ynys Môn

Y Dreth Gyngor

Mae Cyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o rai disgowntiau a phremiymau’r Dreth Gyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Mae’r cyngor wedi penodi Infoshare (Datatank), cwmni arbenigol mewn dadansoddi data, i gynorthwyo gyda’r gwaith o adolygu:-

  • Disgownt Person Sengl (SPD) – gostyngiad o 25% i aelwydydd lle mae un oedolyn yn unig yn byw
  • Premiymau’r Dreth Gyngor – tâl ychwanegol ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi

Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys cymharu cofnodion y Dreth Gyngor yn ddiogel â ffynonellau data allanol i nodi unrhyw anghysondebau neu newidiadau mewn amgylchiadau.

Pam rydym yn gwneud hyn

Mae’n bwysig bod y Dreth Gyngor yn cael ei chodi’n gywir ac yn deg. Mae’r adolygiad hwn yn helpu i sicrhau bod disgowntiau’n cael eu cymhwyso’n gywir, bod premiymau’n cael eu codi lle bo’n briodol, a bod cyllid cyhoeddus yn cael ei ddiogelu.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Os caiff eich cyfrif ei ddewis ar gyfer adolygiad, efallai y byddwch yn derbyn llythyr neu ebost yn gofyn i chi gadarnhau eich amgylchiadau presennol. Os cysylltir â chi, ymatebwch cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda. Os yw eich amgylchiadau wedi newid, yna rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Gwybodaeth bwysig am lythyrau y gallech eu derbyn

Efallai y bydd rhai trigolion yn derbyn llythyr a anfonir ar ran y cyngor gan Infoshare (Datatank). Gall y llythyrau hyn gynnwys y cyfeiriad dychwelyd canlynol:-

PO Box 2195,
Livingston,
EH54 0NU

Gallwn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth o’r cyfeiriad hwn yn ddilys ac yn rhan o broses adolygu swyddogol y cyngor. Nid sgâm mohono.

Diogelu data

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Bydd Infoshare (Datatank) yn prosesu data ar ran y cyngor yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac at ddibenion yr adolygiad hwn yn unig.