Cyngor Sir Ynys Môn

Protocol argyfwng tywydd eithafol am rywun sy'n cysgu ar y stryd


Beth yw Protocol Argyfwng Tywydd Eithafol

Mae'r protocol yn ymateb brys sydd wedi ei gytuno yn lleol i dywydd eithafol, gyda'r nod o helpu diogelu unrhyw un sydd efallai'n cysgu ar y stryd mewn tywydd difrifol, trwy ddarparu llety brys.

Sut i gael cymorth yn ystod y cyfnod hwn

Pan fydd y protocol yn cael ei weithredu bydd Tîm Asesu Tai o fewn Gwasanaethau Tai yn cysylltu â'r asiantaethau ac yn darparu gwybodaeth ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn nodi pryd cyfnod  fydd y protocol mewn lle. Gall unrhyw un gysylltu â ni. 

Cysylltu â ni

Ffonio: 01248 752 200

E-bostio: tai@ynysmon.llyw.cymru (wedi'i fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)

Pam nad yw'r protocol hwn ar waith drwy'r flwyddyn?

Mae hwn yn fesur brys dros dro i gynnig a sicrhau fod gan unrhyw un sy'n cysgu ar y stryd fynediad at lety diogel yn ystod tywydd difrifol.

Mae mynediad ar gael drwy'r flwyddyn i unrhyw un sy'n ddigartref.

Cysylltwch â ni os ydych chi'n ddigartref ar hyn o bryd / yn cysgu ar y stryd neu os ydych yn pryderu am rywun.

Cysylltu â ni

Ffonio: 01248 752 200

E-bostio: tai@ynysmon.llyw.cymru (wedi'i fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)

Dywedwch wrthym am rywun sy'n cysgu ar y stryd

Gallwch hefyd riportio unrhyw un rydych yn ei weld yn cysgu ar y stryd trwy wefan / ap StreetLink. Byddwn yn ymweld / trefnu cymorth allan i unigolion.