Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn nodi’r angen i gynghorau sir arwain ar gydlynu’r gwaith o reoli risg llifogydd ar gyfer dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr arferol yn eu hardaloedd.
Cynllun Strategol Perygl Llifogydd
Mae’r Cynllun Strategol Perygl Llifogydd yn dechrau pennod newydd ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol yn Ynys Môn a fydd yn gweithio tuag at ddeall a rheoli’r risg o lifogydd yn y sir.
Mae’n amlygu’r camau sydd i’w cymryd er mwyn gwella ymwybyddiaeth o risg llifogydd ar yr ynys, er mwyn cydweithio’n well â sefydliadau a’r cyhoedd er mwyn gallu lleihau’r risgiau hynny gyda’r nod o gydbwyso anghenion cymunedau, yr economi a'r amgylchedd. Bydd y cynllun strategol hwn yn amlygu’r camau sydd i’w cymryd er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cyfrifoldeb y cyngor
Bydd Cyngor Sir Ynys Môn, fel yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol, yn edrych yn bennaf i fynd i’r afael â’r ‘risg o lifogydd yn lleol’, hynny yw, llifogydd gan ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr arferol megis ffosydd a nentydd.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cymryd camau er mwyn adnabod ardaloedd ar draws Ynys Môn lle mae risg o lifogydd ac er mwyn cydweithio â’r awdurdodau rheoli risg o llifogydd, rhanddeiliaid a’r cyhoedd i rannu data ac adnoddau er mwyn lleihau’r risg o lifogydd.
Rhan bwysig o’r Cynllun Strategol Perygl Llifogydd yw sicrhau bod cymunedau yn ymwybodol o’r risgiau sy’n bodoli, cyfrifoldebau’r cyngor ac awdurdodau rheoli risg eraill am y risg o lifogydd a beth all cymunedau ei wneud er mwyn cynnwys eu hunain yn broses. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli llifogydd ar brif afonydd
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n parhau i fod yn gyfrifol am lifogydd yn y prif afonydd ac mae’r ddeddf yn nodi bod angen iddynt ddatblygu, cynnal a gweithredu’r strategaeth rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.