Cyngor Sir Ynys Môn

Grwpiau Gweithredu Llifogydd Cymunedol ar Ynys Môn


Beth yw Grŵp Gweithredu Llifogydd

Grŵp gwirfoddol o breswylwyr lleol yw Grŵp Gweithredu Llifogydd, sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau effaith llifogydd yn eu cymunedau. Mae aelodau’n cyfarfod yn rheolaidd ac yn gweithredu ar ran eu hardal ehangach er mwyn gwella parodrwydd, gwytnwch a chyfathrebu yn ystod digwyddiadau llifogydd.

Ar Ynys Môn, mae gan y grwpiau hyn rôl bwysig o ran cefnogi cymunedau sydd wedi profi llifogydd yn y gorffennol, yn ogystal â’r rhai sy’n parhau i fod mewn perygl neu a allai fod mewn perygl yn y dyfodol. Mae pob grŵp yn gosod ei nodau, amcanion, rolau a chyfrifoldebau ei hun ar sail anghenion lleol.

Rolau a chyfrifoldebau grŵp gweithredu llifogydd

Gall Grwpiau Gweithredu Llifogydd ar Ynys Môn fod yn ymwneud â’r canlynol:

Codi ymwybyddiaeth yn y gymuned

  • Helpu preswylwyr i ddeall y perygl o lifogydd yn eu hardal leol.
  • Rhannu gwybodaeth am sut i baratoi ar gyfer llifogydd a sut i gadw’n ddiogel.

Monitro amodau lleol

  • Cadw golwg ar ddraeniau, cyrsiau dŵr, ceuffosydd a materion posibl eraill.
  • Rhoi gwybod yn gynnar i’r awdurdod priodol am unrhyw broblemau.

Datblygu cynllun llifogydd cymunedol

  • Creu cynllun, gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n amlinellu beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
  • Adolygu a diweddaru’r cynllun yn rheolaidd.

Cefnogi preswylwyr agored i niwed

  • Adnabod pobl a allai fod angen cymorth ychwanegol.
  • Cysylltu ag aelodau agored i niwed o’r gymuned yn ystod tywydd garw.

Gweithredu yn ystod digwyddiadau llifogydd

  • Cydlynu gwirfoddolwyr lleol.
  • Helpu i rannu rhybuddion a diweddariadau amser real.
  • Darparu gwybodaeth leol i asiantaethau sy’n ymateb.

Nodi problemau llifogydd

  • Tynnu sylw at broblemau sy’n digwydd dro ar ôl tro yn y gymuned.
  • Helpu i nodi pa sefydliadau sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â’r problemau hyn.

Gweithio gydag asiantaethau allweddol

  • Datblygu cysylltiadau cyfathrebu cryf gyda:
    • Cyngor Sir Ynys Môn
    • Cyfoeth Naturiol Cymru
    • Dŵr Cymru Welsh Water
    • Y gwasanaethau brys
    • Cynghorau tref a chymuned

Eiriolaeth gymunedol

  • Cyfleu pryderon y gymuned i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau.
  • Ymateb i ymgynghoriadau’r Llywodraeth.
  • Helpu i ddylanwadu ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol.

Grwpiau gweithredu llifogydd sy’n weithredol ar Ynys Môn

Ar hyn o bryd, mae tri Grŵp Llifogydd Cymunedol yn weithredol ar Ynys Môn, wedi’u lleoli yn:

  • Biwmares
  • Dwyran
  • Llangefni

Mae’r grwpiau hyn yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr lleol ac asiantaethau partner i godi ymwybyddiaeth, cryfhau gwytnwch a sicrhau bod cymunedau’n fwy parod ar gyfer llifogydd.

Cymryd rhan neu sefydlu grŵp

Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw Grŵp Llifogydd Cymunedol sy’n bodoli eisoes, neu os oes gan eich cymuned ddiddordeb mewn sefydlu grŵp newydd, cysylltwch â:

Nadine Parry
Swyddog Cyswllt Cymunedol (Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol)
NadineParry@ynysmon.llyw.cymru