Cyngor Sir Ynys Môn

Bagiau tywod


Does dim dyletswydd deddfwriaethol ar Gyngor Sir Ynys Môn i ddarparu eiddo preswyl neu fasnachol â bagiau tywod er mwyn eu hamddiffyn rhag llifogydd oni bai bod ffynhonnell y llifogydd yn teithio o ased sy’n berchen i’r Cyngor megis y briffordd neu gwrs dŵr sy’n teithio drwy dir sy’n berchen i’r Cyngor. 

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn:

  • trefnu bagiau tywod er mwyn dargyfeirio llif y dŵr sy’n deillio o asedau awdurdod lleol megis gylïau’r briffordd, ceuffosydd a ffosydd ynghyd â chyrsiau dŵr, ceuffosydd a ffosydd sydd wedi eu lleoli ar dir sy’n berchen i’r awdurdod lleol
  • yn amodol ar argaeledd; trefnu bagiau tywod mewn lleoliadau lle mae risg uniongyrchol i fywyd neu eiddo. Bydd y penderfyniad i roi bagiau tywod yn cael ei gymryd drwy ddisgresiwn y swyddogion sy’n ymateb. Lle mae hynny’n bosibl, rhoddir blaenoriaeth i drigolion oedrannus a bregus
  • casglu bagiau tywod o dir sy’n berchen i’r awdurdod a mannau agored cyhoeddus a chael gwared arnynt mewn modd priodol

Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn: 

  • yn trefnu i eiddo preifat gael bagiau tywod ymlaen llaw, cyn achos o lifogydd
  • anfon bagiau tywod i eiddo masnachol ar unrhyw adeg cyn, yn ystod neu yn dilyn achos o lifogydd, oni bai yr ystyrir bod hynny’n angenrheidiol dan amodau eithriadol er mwyn amddiffyn isadeiledd preswyl a / neu masnachol rhag difrod gan lifogydd
  • caniatáu trigolion i gasglu bagiau tywod o storfeydd Cyngor Sir Ynys Môn
  • casglu bagiau tywod o dir preifat, eiddo preswyl (oni bai am achosion pan fyddant wedi eu trefnu gan y cyngor gyfer trigolion oedrannus neu fregus) neu eiddo masnachol, nac 
  • yn casglu bagiau tywod nad ydynt wedi eu trefnu gan Cyngor Sir Ynys Môn
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.