Cyngor Sir Ynys Môn

Arfordir ac arfordirol


Erydiad arfordirol ar Ynys Môn: heriau a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Deall erydiad arfordirol

Mae arfordir Ynys Môn yn cael ei lunio’n barhaus gan rymoedd naturiol – tonnau, llanw a stormydd. Mae’r prosesau hyn, ynghyd â chodiad lefel y môr, yn arwain at golli tir yn raddol ac yn cynyddu’r risg i gymunedau, seilwaith a chynefinoedd.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae diogelu’r arfordir a rheoli risg llifogydd yn y DU yn cael eu llywodraethu gan ddwy brif ddeddfwriaeth:

Deddf Diogelu’r Arfordir 1949

O dan y Ddeddf, Cyngor Sir Ynys Môn yw’r Awdurdod Diogelu’r Arfordir dynodedig ar gyfer Môn.
Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau i Awdurdodau Diogelu’r Arfordir i weithredu gwaith amddiffyn arfordirol, gan gynnwys muriau môr, groynion a gorchuddion, ond caiff y gwaith hwn ei arwain gan y Cynllun Rheoli’r Arfordir.

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Yn cyflwyno fframwaith strategol ar gyfer rheoli risgiau llifogydd ac erydiad arfordirol.
Mae cyfrifoldebau’n cael eu rhannu:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu goruchwyliaeth a chanllawiau cenedlaethol.
  • Awdurdodau Lleol yn gweithredu fel Prif Awdurdodau Llifogydd Lleol, gan ddatblygu strategaethau lleol a chynnal amddiffynfeydd cyhoeddus.
    Mae’r Ddeddf yn annog cydweithio rhwng asiantaethau i sicrhau atebion integredig a chynaliadwy.

Y Cynllun Rheoli’r Arfordir (SMP)

Mae Ynys Môn yn rhan o SMP2 Gorllewin Cymru, sef cynllun tymor hir sy’n cwmpasu’r 100 mlynedd nesaf. Mae SMPs yn hanfodol oherwydd eu bod yn:

  • asesu risgiau o erydiad arfordirol a llifogydd.
  • gosod polisïau ar gyfer pob rhan o’r arfordir: Dal y Llinell, Ail-leoli Rheoledig, neu Dim Ymyrraeth Weithredol.
  • integreiddio ystyriaethau amgylcheddol a anghenion cymunedol.

Pam mae SMP yn bwysig yng nghyd-destun newid hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn cyflymu codiad lefel y môr ac yn cynyddu dwyster stormydd. Mae’r SMP yn darparu:

  • Srategaethau addasu: ymyriadau fesul cam yn seiliedig ar sbardunau risg.
  • Diogelu’r amgylchedd: cydymffurfiaeth â rheoliadau cynefinoedd ac ansawdd dŵr.
  • Gwydnwch yn y dyfodol: dull cydgysylltiedig i ddiogelu cymunedau, seilwaith ac ecosystemau.

Edrych ymlaen

Nid dogfen dechnegol yn unig yw’r Cynllun Rheoli’r Arfordir – mae’n fap ffordd ar gyfer wynebu’r dyfodol. Trwy gynllunio ymlaen llaw, mae’r SMP yn helpu i gydbwyso diogelu, cynaliadwyedd ac addasu yng nghyd-destun hinsawdd ansicr.