Cyngor Sir Ynys Môn

Corff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy (CCS)


Bydd newidiadau sylweddol i ofynion draenio yn effeithio ar ddatblygiadau newydd o fis Ionawr 2019 ymlaen

O 7 Ionawr 2019, bydd angen systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle. Mae’n rhaid i systemau draenio dŵr wyneb gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Mae’n rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Ynys Môn yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn. Bydd dyletswydd ar y CCS i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio, cyhyd a’u bod wedi eu hadeiladu ac yn gweithredu yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyaeth y CCS.

Pa ddeddfwriaeth ydym ni’n cyfeirio ati?

Mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn bod rhaid i systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau).

Gweler isod ddolenni i wefannau Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth bellach ynglŷn â’r gofynion, y safonau statudol a’r ddeddfwriaeth sydd ger bron y Cynulliad ar hyn o bryd.

Mae Atodlen 3 Deddf 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cydymffurfio ag adran 17 yr Atodlen. Am ragor o wybodaeth ar y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010.

Beth yn union yw CCS?

Mae CCS yn swyddogaeth statudol a gyflawnir gan yr awdurdod lleol i sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac un tŷ neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy yn cael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Mae’r CCS yn cael ei sefydlu i:

  • Werthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio am ddatblygiadau newydd lle mae yna oblygiadau draenio i’r gwaith adeiladu
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17, Atodlen 3 (DRhLlD).
  • Mae gan y CCS hefyd bwerau archwilio a gorfodaeth
  • Gall hefyd ddefnyddio pwerau dewisol i gynnig cyngor cyn gwneud cais (anstatudol)

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer fy natblygiad i?

P’un ai ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu’n unigolyn sy’n ceisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw eich datblygiad yn un o fwy nag un tŷ neu’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy, mae’n rhaid i chi hefyd geisio am ganiatâd CCS ynghyd â’r caniatâd cynllunio. Ni fydd gennych hawl i ddechrau adeiladu hyd nes bydd y 2 ganiatâd wedi’u rhoi i chi.

O ran safleoedd a datblygiadau presennol sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio eisoes neu lle bernir bod caniatâd cynllunio wedi’i roi (naill ai gyda neu heb unrhyw amodau yn ymwneud â mater a gadwyd yn ôl) neu lle mae cais dilys wedi’i dderbyn ond heb ei benderfynu erbyn 7 Ionawr 2019, ni fydd angen iddynt ymgeisio am ganiatâd CCS.

Fodd bynnag, bydd dal rhaid cael caniatâd CCS os rhoddwyd amod ar y caniatâd cynllunio yn ymwneud â mater a gadwyd yn ôl ac na chaiff cais i gymeradwyo’r mater a gadwyd yn ôl ei gwneud cyn 7 Ionawr 2020.

Bydd yna rai eithriadau

  • Mae gwaith adeiladu nad yw angen caniatâd cynllunio wedi ei eithrio o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth CCS; nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol os yw’r gwaith adeiladu yn gorchuddio ardal o 100m2 neu fwy.
  • P’un ai oes angen caniatâd cynllunio ai peidio, mae gwaith adeiladu sy’n cynnwys adeiladu un annedd yn unig, neu waith adeiladu arall sy’n gorchuddio ardal llai na 100m2, wedi ei heithrio o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth y CCS.

Sut ydw i’n ymgeisio am gymeradwyaeth CCS?

Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyngor cyn-gwneud-cais (bydd angen talu am hwn) i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth fydd angen i chi ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth cyn-gwneud-cais cynllunio felly bydd angen i chi drafod yn gynnar gyda’r gwasanaethau perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod dyluniad y SDC yn addas yn unol â safonau cenedlaethol, a bod gosodiad y safle yn ddigon da. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu i gyfyngu ar unrhyw oedi ac i leihau costau yn y tymor hir. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwn cyn i chi gyflwyno eich cais llawn, er mwyn osgoi oedi wrth gael cymeradwyaeth ac i leihau’r gost yn y tymor hir.

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau llawn i’r CCS er mwyn iddo eu dilysu, a gyda’r cais bydd rhaid cyflwyno:

  • cynllun yn dangos yn fanwl yr arwynebedd adeiladu a graddfa’r system ddraenio,
  • gwybodaeth am sut bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r Safonau SDCau;
  • gwybodaeth y gofynnir amdani yn y cais o’r rhestr wirio
  • y ffi ymgeisio briodol.

Bydd gan y CCS 7 wythnos i wneud penderfyniad ar geisiadau, heblaw am geisiadau lle mae angen Asesiad Effaith Amgylcheddol, lle bydd ganddynt 12 wythnos i benderfynu.

Bydd ffurflenni cais a’r dogfennau cysylltiedig ar gael yma yn fuan. Bydd angen cyflwyno pob cais i’r CCS perthnasol.

Sut ydw i’n cysylltu â’m CCS?

Y dyddiad cychwyn pan fydd rhaid cael caniatâd CCS yw 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd wrthi’n sefydlu’r gwasanaeth newydd i ddelio gyda’ch ceisiadau a gwefan arbennig i roi rhagor o wybodaeth i chi wrth iddo ddod ar gael.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y broses newydd hon, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen ar-lein a dewiswch Priffyrdd o'r gwymplen.

Mae llawer o wybodaeth ar gael ac mae’r gwefannau canlynol hyn yn adnodd defnyddiol, rhad ac am ddim i gael mwy o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy ac i’ch helpu i ddeall yr hyn fydd angen i chi ei ystyried.