Cyngor Sir Ynys Môn

Cofrestr o asedau risg llifogydd


Mae cymalau perthnasol o’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn rhoi grym i Gyngor Sir Ynys Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru fel ‘awdurdodau dynodedig’. Hynny yw, mae ganddynt y pwerau caniataol i ‘ddynodi’ nodweddion neu strwythurau y maent yn ystyried sy’n effeithio ar y risg o lifogydd ac nad ydynt yn perthyn i’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol neu Gyfoeth Naturiol Cymru. 

Os yw ased yn dod yn ‘ddynodedig’ ni all ei berchennog addasu, dymchwel nac amnewid strwythur dynodedig heb ganiatâd yr awdurdod rheoli risg dynodedig. Nod dynodi asedau risg llifogydd yw er mwyn eu diogelu yn erbyn gwaith sydd heb ei wirio ac a allai gynyddu’r risg o lifogydd yn yr ardal. Nid yw dynodi nodweddion neu strwythurau yn rhywbeth a fydd yn cael ei wneud yn rheolaidd, dim ond pan y penderfynir bod pryderon yn bodoli am yr ased.  

Mae ased yng nghyd-destun rheoli’r risg o lifogydd yn strwythur artiffisial neu naturiol sy’n gweithio fel amddiffynfa llifogydd neu fel rhan o system ddraenio neu gallai fod yn nodwedd arall yr ystyrir y byddai ganddo effaith sylweddol ar y risg o lifogydd. Gallai enghreifftiau gynnwys sgrîn brigau, ceuffos, gorsaf bwmpio, waliau neu glannau neu sianel afon.   

Bydd y gofrestr ar ffurf cronfa ddata fyw, a fydd yn cael ei diweddaru’n gyson yn dilyn achosion o lifogydd, ymchwiliadau i lifogydd a newidiadau i’r isadeiledd. Cynigir y bydd asedau draenio cynaliadwy newydd yn cael eu cofnodi a gallai data am asedau hefyd gael ei ystyried drwy astudiaethau lleol megis y Cynlluniau Rheoli Dŵr Wyneb. Yn y lle cyntaf, bydd y gwaith o gofnodi asedau’n cael ei flaenoriaethu yn seiliedig ar ei leoliad; bydd mapio risg llifogydd yn y dyfodol ac ardaloedd risg llifogydd hysbys a gymerir o’r Asesiadau Cychwynnol ar gyfer Risg Llifogydd yn cael eu defnyddio er mwyn dadansoddi ‘arwyddocâd’ pob ased lle mae risg o lifogydd. Bydd pa mor fregus yw’r ardal o amgylch yr ased hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn penderfynu ar ganlyniadau ei fethiant. 

Mae hefyd angen i’r Cyngor gadw cofnod o asedau ar gyfer defnydd awdurdodau rheoli risg. Bydd y cofnod yn darparu gwybodaeth bellach am bob ased a manylion cyswllt y perchennog neu’r unigolyn sy’n cynnal a chadw’r ased. Bydd y gronfa ddata hon yn cael ei defnyddio i ymchwilio i achosion lle hysbyswyd y Cyngor am faterion yn ymwneud ag asedau risg llifogydd.  

Mae asedau angen eu harchwilio a’u cynnal a’u cadw er mwyn atal methiant, sydd fel arall yn gallu cael ei achosi gan ddirywiad neu gynnydd o ran amlder a lefel y llifogydd. Mae yna lawer o ddryswch wedi bod yn aml iawn dros berchnogaeth a chyfrifoldeb am gynnal a chadw asedau risg llifogydd lleol. Mae hyn yn debygol o fod yn ganlyniad i’r ffaith bod isadeiledd draenio lleol wedi ei guddio o dan ddaear neu ar hyd ffiniau tir, lle nad yw perchnogion tir yn sylwi neu lle nad ydynt yn cydnabod fod ganddynt unrhyw gyfrifoldeb. 

Mae’r asedau hyn yn cynnwys  

  • amddiffynfeydd arfordirol
  • cyrsiau dŵr arferol ar dir sy’n berchen i Cyngor Sir Ynys Môn
  • asedau afonydd ar dir sy’n berchen i Cyngor Sir Ynys Môn
  • amddiffynfeydd y gellir eu tynnu o’i  gilydd 
  • amserlenni cynnal a chadw

Bydd yn cymryd blynyddoedd cyn y bydd y gofrestr yn ddigon cynhwysfawr i fod o unrhyw wir werth o ran rheoli risg llifogydd. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dechrau cadw cofrestr o’r holl wybodaeth bresennol ar strwythurau sy’n debygol o gael effaith ar risg llifogydd. Os hoffech gael gwybodaeth bellach am y cynnydd a'r data yn y gofrestr,  llenwch ein ffurflen ar-lein a dewiswch Priffyrdd o'r gwymplen.