Cyngor Sir Ynys Môn

Adroddiadau ymchwilio i lifogydd a chofrestr asedau


Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd

Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2011. 

Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Ynys Môn, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, i ymchwilio i’r holl ffynonellau o achosion o lifogydd sylweddol. Nid yw’r diffiniad cenedlaethol o sylweddol ar gael felly mae’r penderfyniad a ddylid ymchwilio i lifogydd ai peidio yn un i’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ei wneud a bydd pa mor gynhwysfawr yw’r ymchwiliad yn cael ei addasu er mwyn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad a’r adnoddau sydd ar gael. Os digwydd llifogydd sylweddol ar draws ardal eang sy’n effeithio ar rannau mawr o Ynys Môn, mae ein gallu i ymchwilio i bob achos mewn manylder yn debygol o fod yn hynod gyfyngedig   

Nod yr ymchwiliadau llifogydd yw dod â’r holl wybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd mewn un lle, darparu dealltwriaeth o sefyllfaoedd, amlinellu rhesymau posibl dros lifogydd a’r atebion tymor hir er mwyn amddiffyn pobl a’u cartrefi rhag llifogydd. Bydd argymhellion pellach hefyd yn cael eu gwneud er mwyn tynnu sylw at weithredoedd rheoli llifogydd posibl. Bydd adroddiadau’n darparu dealltwriaeth glir a thrylwyr o sefyllfaoedd llifogydd ond nid yw ein dyletswydd i ymchwilio yn gwarantu y bydd problemau yn cael eu datrys a does dim modd gorfodi awdurdodau eraill i weithredu.    

Bydd ymchwiliad llifogydd yn cynnwys ymgynghori â’r awdurdodau rheoli risg perthnasol, perchnogion tir a sefydliadau preifat a bydd disgwyl iddynt gydweithio a darparu sylwadau.

Cam 1: Cynnal asesiad cychwynnol, yn cynnwys dadansoddiad gwerthuso risg er mwyn gweld a oes angen archwiliad safle er mwyn gallu mynd ymlaen i’r ail gam.

Cam 2: Cynnal ymchwiliad manwl (Adroddiad Ymchwil i Lifogydd) er mwyn adnabod ffynhonnell y llifogydd, nifer yr eiddo yr effeithir arnynt a pha fesurau y gellir eu cyflawni er mwyn helpu i reoli’r risg neu atal achosion o lifogydd rhag digwydd yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ac anfonir copi at yr holl bartïon perthnasol.  

Cam 3: Ymgeisio am gyllid ar gyfer cynnal astudiaeth dichonoldeb o gynlluniau lliniaru llifogydd; a  

Cam 4: Dylunio ac adeiladu’r cynllun lliniaru (yn amodol ar gyllid).

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Ynys Môn  

Lle bydd ymchwiliad wedi’i gynnal, bydd Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd yn cael ei gynhyrchu a gellir gwneud cais am gopi drwy ffonio 01248 750057 neu drwy llenwi ein ffurflen ar-lein a dewis Priffyrdd o'r gwymplen.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

** Ymwadiad

Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn nhudalennau’r Adroddiadau hyn, ni fedr Cyngor Sir Ynys Môn warantu y bydd y cynnwys bob amser yn gyfredol, yn gywir neu’n gyflawn.

Mae’r Adroddiadau hyn wedi cael eu paratoi fel rhan o gyfrifoldebau Cyngor Sir Ynys Môn dan  Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Bwriedir iddynt ddarparu cyd-destun a gwybodaeth er mwyn cefnogi’r broses o gyflawni’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac ni ddylid eu defnyddio i unrhyw ddiben arall.

Mae canfyddiadau’r Adroddiad yn seiliedig ar asesiad goddrychol o’r wybodaeth a oedd ar gael i’r sawl a gynhaliodd yr ymchwiliad ac o’r herwydd, mae’n bosibl na fyddant yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Felly, ni ddylid ei ystyried fel asesiad terfynol a phendant o’r holl ffactorau a all fod wedi achosi’r llifogydd neu gyfrannu atynt.   

Mae’r farn, y casgliadau ac unrhyw argymhellion yn yr Adroddiadau hyn yn seiliedig ar ragdybiaethau a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn wrth baratoi’r Adroddiadau hyn ac maent yn cynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i’r rhagdybiaethau allweddol hynny a nodwyd yn yr Adroddiadau gan gynnwys dibyniaeth ar wybodaeth a ddarparwyd gan drydydd partïon.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwadu yn ddiamheuol unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad yn yr Adroddiadau hynny neu unrhyw beth a adawyd allan ohonynt yn codi o’r rhagdybiaethau hyn neu yn sgil y ffaith bod unrhyw un ohonynt yn anghywir.

Mae’r farn, y casgliadau ac unrhyw argymhellion yn yr Adroddiadau hyn yn seiliedig ar yr amgylchiadau y daethpwyd ar eu traws a’r wybodaeth a adolygwyd ar adeg paratoi’r Adroddiadau ac mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwadu yn ddiamheuol unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad yn yr Adroddiadau hyn neu unrhyw beth a adawyd allanol ohonynt yn codi o’r farn neu’r casgliadau hynny ac unrhyw argymhellion a wnaed.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahardd i’r Adroddiadau hyn neu eu cynnwys gan eu hatgynhyrchu gan unrhyw drydydd parti heb iddynt gael caniatâd ymlaen llaw.