Cyngor Sir Ynys Môn

Clefyd coed ynn


Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffwngaidd heintus iawn sy’n taro’r onnen gyffredin (fraxinus excelsior), sef un o'r rhywogaethau coed brodorol mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Fe'i hachosir gan ffwng hymenoscyphus fraxineus (a elwid gynt yn 'chalara') a ddaeth o Ddwyrain Asia.

Cadarnhawyd gyntaf yn Prydain yn 2012, ers hynna mae clefyd coeden Ynn wedi lledu i bob cornel o Gymru.

Nid oes ffordd o wella’r clefyd na dull clir o’i atal rhag lledaenu.

Rhoi gwybod am symptomau

Os ydych yn meddwl eich bod wedi gweld clefyd coed ynn ar dir y cyngor gallwch roi gwybod i ni am hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Gwelir coed ynn yn aml mewn gwrychoedd a choetiroedd ar hyd ochrau ffyrdd.

Maent yn bwysig yn y dirwedd ac ar gyfer bywyd gwyllt, megis adar sy’n nythu ac ystlumod, gan gynnal cannoedd o rywogaethau eraill.

Mae'n debygol y bydd hyd at 95% o goed ynn sydd wedi'u heintio â'r clefyd yn dirywio ac yn marw dros y blynyddoedd nesaf.

Fodd bynnag, gall canran fach (1-5%) fedru goddef y clefyd i ryw raddau efallai; bydd y coed hyn yn bwysig i oroesiad coed ynn i'r dyfodol.

Y prif symptomau yw colli dail a gwywo, gan arwain at frigau a changhennau marw - a elwir yn ‘gwywiad y corun’.

Mae'n haws sylwi ar goed sydd wedi'u heintio yn ystod yr haf (Gorffennaf - Medi) oherwydd canghennau noeth neu farw (yn dechrau wrth flaenau'r canghennau).

Wrth i'r clefyd ddatblygu, mae'n lladd y rhisgl a'r boncyff ac mae'r goeden yn marw. Mae'r coed a effeithir hefyd yn fwy tueddol i gael clefydau eilaidd, gan gynnwys ffwng mêl a all achosi pydredd i'r bonyn neu'r gwreiddiau a chyflymu dirywiad y coed a pheri iddynt fod yn beryglus yn gynt.

Mae diogelwch y cyhoedd yn bryder difrifol i holl berchnogion coed ynn, yn enwedig felly lle maent yn tyfu o fewn pellter cwympo i eiddo, ffordd neu fannau cyhoeddus.

Er mai’r Awdurdod Priffyrdd sy’n gyfrifol am y coed sy'n tyfu ar tir y cyngor, tirfeddianwyr preifat sy’n gyfrifol am goed sy'n tyfu ar hyd gwrychoedd terfyn neu ar ochrau caeau/gerddi i ffensys terfyn.

Mae gan berchnogion coed ddyletswydd gofal gyfreithiol mewn perthynas â'u coed, a gallant fod yn atebol am ddifrod/anaf i ddefnyddwyr ffyrdd a llwybrau troed neu eiddo cyfagos, a achosir gan fethiant coeden neu gangen.

Dylai tirfeddianwyr felly sicrhau y cynhelir archwiliadau rheolaidd o'u coed (a'u bod yn eu cofnodi) i sicrhau bod eu coed yn iach ac nad oes ganddynt ddiffygion amlwg a allai beri perygl i eraill.

Mae dirywiad cyflym coed ynn sydd wedi eu heintio yn golygu bod cynnal arolygon blynyddol yn fater o frys (yn ystod y misoedd Gorffennaf - Medi tra bo'r coed yn eu dail) gan y gallai'r canghennau sydd wedi marw yn y corun dorri i ffwrdd a disgyn ac achosi difrod neu ddamweiniau o bosib.

Lle mae mwy na 50% o'r corun wedi marw yn ôl gall y goeden fod yn risg i ddiogelwch. Bryd hynny, mewn ardaloedd lle mae risg i bobl, eiddo neu isadeiledd, argymhellir ar hyn o bryd fod y goeden yn cael gwneud yn ddiogel.

Arolygon ymyl ffordd

Ers mis Mai 2023, bu’r Cyngor yn cynnal arolygon ymyl ffordd o Glefyd Coed Ynn ar goed sy’n agos at y briffordd.

Mae’r arolygon wedi canfod bron i 3000 o goed, o wahanol feintiau, ar dir cyhoeddus a phreifat a fydd yn peryglu diogelwch y rhwydwaith priffyrdd ac y mae angen eu torri i lawr.

Mae coed ar dir y Cyngor fydd yn cael eu torri i lawr wedi cael eu marcio gydag ‘X’

Cau ffyrdd

Yn yr ardaloedd hynny lle ceir y nifer mwyaf o goed bydd y ffordd yn cael ei chau er mwyn gwneud y gwaith, naill ai ar y penwythnos neu gyda’r nos.

Bydd arwyddion sy’n rhybuddio am gau’r ffordd yn cael eu gosod ar y llwybrau hyn yn barod a bydd arwyddion gwyro traffig yn cael eu gosod tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Defnyddir goleuadau traffig mewn ardaloedd lle bydd angen torri llai o goed.

 

Mae amseriad y gwaith wedi’i gynllunio i leihau tarfu ar draffig a sŵn. Serch hynny, bydd traffig yn cael ei amharu am gyfnodau byr, gan effeithio ar bobl a busnesau.

Mae’r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau teithiau diogel i ddefnyddwyr ffyrdd a gofynnwn am gydweithrediad y cyhoedd a pherchnogion tir tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

Tir preifat

Bydd perchnogion coed ar dir preifat yn derbyn llythyrau yn gofyn iddynt drefnu fod coed peryglus ar eu tir yn cael eu torri i lawr.

Gall coed gynnal rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith, yn enwedig adar sy'n nythu, ystlumod a gwiwerod coch (nythod gwiwerod)

Naill ai gwnewch waith torri a thocio y tu allan i dymor nythu adar - nid yn ystod y cyfnod 1 Mawrth i 31 Awst - neu o fewn y cyfnod hwn dim ond os gellir sefydlu'n glir nad yw adar wedi dechrau nythu.

Ar gyfer coed aeddfed, ystyriwch docio coed ynn ar uchder o 2m. Gall hyn fod yn ddewis arall yn lle torri'r goeden i lawr. Fel hyn gellir cadw peth o werth y goeden o ran bywyd gwyllt (tyllau i adar ac ystlumod a chen ar y boncyff) a lleihau'r risg y bydd y goeden yn methu.

Os gan y coed graciau, ceudodau / pantiau, neu eiddew trwchus yn tyfu arnynt, mae ystlumod yn fwy tebygol o fod yn bresennol. Os ydych yn tybio mai dyna'r achos, cyflogwch ecolegydd neu gofynnwch am gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gan y bydd angen trwydded cyn y gellir bwrw ymlaen â gwaith i docio'r coed neu i'w torri i lawr. Gweler Ystyriaethau Cyfreithiol.

Byddai angen trwydded ganiatâd hefyd gan CNC os oes nyth gwiwer goch yn bresennol.

Os yw coed yn tyfu mewn safle a warchodir e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - SSSI) bydd angen i chi hefyd gael caniatâd CNC.

Plannwch goed newydd ar gyfer y dyfodol. Os oes angen torri coed i lawr am resymau diogelwch, gellwch leihau'r golled ecolegol a'r golled i'r dirwedd trwy blannu rhywogaethau brodorol newydd gan ddefnyddio'r fformiwla 3-2-1: plannu 3 glasbren am bob coeden fawr a gollir, 2 am bob coeden o faint canolig ac 1 am bob coeden fach

Nid yw'r rhestr hon yn ymdrin â phob mater bywyd gwyllt posib.

Os nad oes unrhyw symptomau neu os nad oes fawr o haint yna dylid cadw'r coed ond eu monitro'n flynyddol.

Cadwch gofnod ysgrifenedig a ffotograffig gyda dyddiadau o ymweliadau monitro a chyflwr eich coed.

Peidiwch a thorri i lawr y coed heintiedig ONI BAI eu bod yn peri risg i ddiogelwch (neu ar gyfer cynhyrchu pren), mae coed sydd wedi marw neu sydd ar farw yn dda i fywyd gwyllt.

Peidiwch â thorri pob coeden onnen i lawr gan dybio y bydd pob un ohonynt yn marw beth bynnag - mae tystiolaeth y bydd ychydig o’r coed yn gallu goddef y clefyd ac adfer. Mae nodi a chadw coed sy'n gallu gwrthsefyll y clefyd yn bwysig iawn ar gyfer dyfodol coed ynn.

Os oes unrhyw amheuaeth, dylid cyflogi swyddog coedyddiaeth cymwys i gael cyngor. Efallai y bydd y Gymdeithas Goedyddiaeth neu Adran Briffyrdd yr Awdurdod Lleol yn gallu cynnig cyngor hefyd.

Diogelwch gweithwyr

Gall bod raid bod yn arbennig o ofalus wrth docio'r coed heintiedig neu eu torri i lawr oherwydd gall coed sydd wedi eu heintio ymateb mewn ffordd nad oes modd ei rhagweld oherwydd breuder y pren marw. Argymhellir yn gryf eich bod yn cyflogi gweithiwr proffesiynol i wneud unrhyw waith.

Cynghorir dull rhagofalus o ran y goblygiadau iechyd a diogelwch i gontractwyr coed sy'n rheoli neu'n torri coed ynn heintiedig i lawr, gan nad oes dealltwriaeth dda o'r risgiau hyd yma.

Cost

Os ydych chi'n cyflogi contractwyr, dylent fod wedi eu hyswirio, dylai bod ganddynt y cymwysterau priodol a dylent roi dyfynbris ysgrifenedig. Bydd y gost fel arfer yn dibynnu ar gymhlethdod y sefyllfa, p'un a oes angen Rheoli Traffig a maint y gwaith.

Argymhellir eich bod yn defnyddio contractwyr sy’n aelodau o gorff proffesiynol neu’n rhan o’r cynllun ‘Prynu gyda Hyder’.

Gwyliwch rhag contractwyr sy'n dod atoch chi ynglŷn â'ch coed.

Priffyrdd

Bydd angen cydgysylltu ag Adain Gwaith Stryd yn yr Adran Briffyrdd am ganiatâd i dorri coed i lawr coed ger priffordd.

Trwydded torri coed i lawr

Yn dilyn y canllawiau cyfredol, os ydych chi'n bwriadu torri mwy na 5m3 mewn unrhyw chwarter blwyddyn bydd angen trwydded. Ond os yw'r goeden yn perig ac ar fin disgyn , ella fedrwch chi torri heb trwydded.

I ddarganfod mwy gweler llyfryn Cyfoeth Naturiol Cymru: Torri Coed – Cael Caniatâd

Safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig

Rhaid cael trwydded neu ganiatâd gan CNC yn achos rhywogaethau neu safleoedd gwarchodedig (gweler uchod) Dolenni ar gyfer trwyddedau:

Safleoedd gwarchodedig 

Rhywogaethau gwarchodedig

Bywyd Gwyllt Gwarchodedig

Gorchmynion Cadw Coed ac Ardaloedd Cadwraeth

Dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio lleol os yw eich coeden wedi'i diogelu trwy Orchymyn Cadw Coed neu os ydych mewn Ardal Gadwraeth.

Dail a hadau coeden onnen.
Dail a rhisgl wedi cael ei effeithio gan glefyd coed ynn.
Coeden hynafol ynn.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.