Beth yw teithio llesol?
Mae teithio llesol yn flaenoriaeth allweddol yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae teithio llesol yn golygu siwrneiau byr ar droed neu feic (gan gynnwys cadeiriau olwyn trydan a sgwteri symudedd), megis i'r ysgol, gwaith neu’r siop, neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyrraedd gorsafoedd bysiau/rheilffyrdd.
Nid yw teithio llesol yn cynnwys teithiau a wneir am resymau hamdden neu gymdeithasol yn unig.
Pam teithio llesol?
Ym Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol o fewn y lleoliadau sydd wedi eu dewis, fel y nodwyd gan feini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (a oedd yn cynnwys lleoliadau â phoblogaeth o fwy na 2000).
Mae’r ddeddf yn gosod uchelgais clir i wella llwybrau cerdded a beicio er mwyn ein helpu ni i fodloni ein hamcanion amgylcheddol ac iechyd. Mae’r prosiect hefyd yn rhan o fenter Cymru gyfan.
Mapiau rhwydwaith teithio llesol (MRhTLl)
Mae'n ofyniad cyfreithiol yng Nghymru i gynhyrchu mapiau rhwydwaith teithio llesol (MRhTLl) er mwyn dangos lle mae llwybrau cerdded a beicio sy'n bodoli eisoes (llwybrau presennol) a lle rhagwelir uwchraddio neu lwybrau newydd sbon am y 15 mlynedd nesaf (llwybrau'r dyfodol).
Cynhaliodd y cyngor dri ymgynghoriad yn ystod 2021 er mwyn cael dealltwriaeth gan bobl o bob rhan o gymdeithas beth oedd yn eu hatal rhag cerdded a beicio o ddydd i ddydd.
Cymeradwywyd ein MRhTLl gan Lywodraeth Cymru ar 3 Awst 2022. Mae'r MRhTLl yn nodi'r dyheadau sydd gan yr Awdurdod ar waith ar gyfer gwella llwybrau teithio llesol lleol mewn wyth anheddiad ar yr ynys.
- Llangefni
- Llanfairpwll
- Y Fali
- Benllech
- Porthaethwy
- Amlwch
- Caergybi
- Gaerwen
Y MRhTLl yw ein cynllun tymor hir ar gyfer cerdded a beicio. Mae'n dangos ble mae’r llwybrau cerdded a beicio yn ogystal â’r llwybrau fydd yn cael eu huwchraddiadau neu lwybrau newydd y bwriedir eu creu.
Ewch i'r wybodaeth Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn
Cyllid teithio llesol
Mae’r cyllid ar gyfer gwelliannau teithio llesol yn cael ei sicrhau drwy’r Gronfa Teithio Llesol.
Camau nesaf
Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud mân waith i’r rhwydwaith teithio llesol, ynghyd â gwaith paratoi pellach gan ganolbwyntio ar yr 8 lleoliad a ddewiswyd ar gyfer gwelliannau teithio llesol rhwng 2023-2024.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth neu unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Trafnidiaeth Gynaliadwy.
Rhif Ffôn: 01248 751 805
E-bost: teithiollesol@ynysmon.llyw.cymru