Cyngor Sir Ynys Môn

Tocyn parcio: gwneud cais


Defnyddiwch y wybodaeth ar y dudalen hon i:

  • gwneud cais am docyn tymor parcio newydd
  • adnewyddu tocyn tymor

Telerau ac amodau

Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn deall yr amodau cyn cwblhau’r cais.

Talu â cherdyn dros y ffôn

I dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd, ffoniwch 01248 750 057 a:

  • dewiswch opsiwn iaith
  • dewiswch yr opsiwn ar gyfer budd-daliadau, refeniw a Threth y Cyngor
  • yna yr opsiwn ar gyfer incwm a thaliadau

Talu drwy'r post

Fel arall, argraffwch y ffurflen gais a’r amodau sydd ynghlwm ynghylch (gweler isod) sut i wneud cais am docyn tymor ar gyfer parcio ac anfonwch nhw wedyn gyda’r tâl i’r cyfeiriad a ddarparwyd os gwelwch yn dda.

Nid ydym yn derbyn taliad yn bersonol

Nid yw’r awdurdod bellach yn derbyn ceisiadau na thaliadau a wneir yn bersonol.

Adnewyddu

Cyfrifoldeb perchennog y tocyn parcio tymor yw gwneud cais i’w adnewyddu.

Mae’r cyngor yn cadw’r hawl i wrthod adnewyddu tocyn parcio tymor os yw’r deilydd yn gyson wedi torri’r rheolau a’r amodau perthnasol neu yn fwriadol wedi atal neu rwystro’r cyngor rhag cyflawni ei ddyletswyddau.

Meysydd parcio dilys

Arhosiad hir

  • Amlwch
    • Ffordd Porth Llechog
    • Llyfrgell
    • Noddfa
    • Stryd Salem
  • Benllech
    • Wendon Isaf
    • Wendon Uchaf
    • Y Sgwar
  • Caergybi
    • Church House
    • Ffordd Victoria
    • Hill Street (Uchaf)
    • Sgwâr Trearddur
    • Stanley Crescent
  • Gaerwen, Cefn Du Mawr  
  • Llanfairpwll Safle Parcio a Theithio/Rhannu Sant Tysilio
  • Llangefni
    • Iard y Stesion
    • Nant y Pandy,
    • Neuadd y Dref (cefn)
    • Penyrorsedd (llyfrgell)
    • Stryd y Felin
  • Porthaethwy
    • Ffordd y Ffair
    • Y Bulkeley
    • Y Waun
  • Porth Swtan Maes Parcio’r Traeth
  • Rhoscolyn Maes Parcio’r Traeth
  • Rhosneigr Llyfrgell
  • Traeth Bychan Maes Parcio’r Traeth
  • Trearddur
    • Fron Tywyn
    • Lôn Isallt
    • Lôn St Ffraid

Arhosiad byr (hyd at 2 awr yn ystod y cyfnodau codi tâl)

  • Caergybi
    • Hill Street (Isaf)
    • Sgwâr Swift
  • Porthaethwy Llys Menai
  • Llangefni Neuadd y Dref (rhan flaen y maes parcio)
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.