Dan gyfraith gwlad, mae gan gerddwyr, marchogwyr a gyrwyr cerbydau hawliau defnyddiwr cyhoeddus dros y cyfan o dir a ddynodir yn briffordd. Fel arfer, rhwng y gwrychoedd a’r ffensys ar naill ochr ar llall i’r gerbydlon y bydd hyn a gall y man hwn gynnwys ymylon y ffyrdd.
Fodd bynnag, efallai na fydd cymaint o hawliau lle ceir cyfyngiadau, megis ar droedffordd lle mai cerddwyr yn unig sydd â hawl i’w ddefnyddio. I bob pwrpas, mae’r gofyn hwn, ynghyd â gofynion cyfreithiol eraill, yn cyfyngu ar led i ddefnyddwyr cerbydau o ran y gerbydlon wneuthuredig, yr hyn yr ydym yn ei alw’n ffordd. Gall marchogwyr groesi troedffordd yn gyfreithlon ar gyffordd neu groesfan ger ymyl y ffordd, dyweder, a marchogaeth ar hyd yr ymyl yng nghefn troedffordd os oes un.
Er hynny, mae eithriadau i hyn, er enghraifft, os oes Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu is-ddeddf leol sy’n gwahardd marchogwyr yn benodol rhag defnyddio ymyl y ffordd. Buasech yn ymwybodol o Orchymyn o’r fath gan y buasai arwyddion yn nodi’r gwaharddiad.