Cyngor Sir Ynys Môn

Gynllun Gwella Hawliau Tramwy


Cyhoeddwyd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Cyntaf Ynys Môn gan Gyngor Sir Ynys Môn yn 2008, gan ei fod yn ofyn statudol o dan Adran 60(1) Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Prif bwrpas y CGHT oedd mabwysiadu agwedd strategol ar reoli a gwella rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus (HTC) Ynys Môn. Yn 2018, ar ôl 10 mlynedd, fe ddaeth CGHT cyntaf Ynys Môn i ddiwedd ei oes ac, o’r herwydd, cynhaliwyd asesiad ac adolygiad statudol arno. Mae Ail CGHT Ynys Môn wedi’i gynhyrchu er mwyn cwrdd â'r gofyn statudol hwn.                                                                            

Bydd Ail CGHT Ynys Môn yn cael ei weithredu am gyfnod o 10 mlynedd (2018-2028). Mae’r cynllun newydd yn nodi, yn blaenoriaethu ac yn cynllunio'n strategol ar gyfer gwelliannau i rwydwaith HTC Ynys Môn, er mwyn creu rhwydwaith gwell, mwy cynhwysol ac integredig, ar gyfer pob math o ddefnyddwyr.

Yn ogystal, mae Ail CGHT Ynys Môn, yn amlinellu strategaethau, nodau ac amcanion ar gyfer rheoli a gwella'r rhwydwaith HTC yn gyfannol er mwyn sicrhau manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach i Ynys Môn ac i’w phobl ac ymwelwyr. Cymeradwywyd ail CGHT Ynys Môn yn mis Medi 2018, ac mae’r ddogfen (a’r dogfennau cysylltiedig) nawr ar gael ar wefan y Cyngor drwy ddilyn y dolennau isod.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.