Mae’r rhan fwyaf o hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi tir preifat. Caiff y cyfrifoldeb amdanynt ei rannu gan y tirfeddiannwr a’r awdurdod priffyrdd.
Mae’r tirfeddiannwr yn gyfrifol am sicrhau nad oes rhwystrau arnynt a gofalu am giatiau a chamfeydd ar hyd y llwybr, a’r awdurdod priffyrdd yn gyfrifol am gadw’r llwybrau mewn cyflwr da a chodi arwyddion ac ati arnynt.
Ym Môn, mae’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gofalu am yr holl lwybrau mewn ardaloedd gwledig ac am rai mewn trefi. Gofelir am y rhan fwyaf o lwybrau trefol sydd ag wyneb wedi’i selio - tarmac, fflagiau neu goncrit -gan y tîm priffyrdd.
Mae’r cyngor yn awyddus i sicrhau nad yw adeiladau newydd a datblygiadau eraill yn tarfu’n ddiangen ar rwydwaith yr hawliau tramwy cyhoeddus a bod mynediad i’r cyhoedd yn gwella lle bo modd. Cyhoeddir arweiniad gan y cyngor wedi anelu at swyddogion cynllunio, datblygwyr a throsglwyddwyr.
Cyfrifoldebau’r cyngor fel yr awdurdod priffyrdd
- Cadw hawliau tramwy’n glir o isdyfiant (h.y. llystyfiant yn tyfu yn wyneb y llwybr).
- Strimio a chynnal a chadw’n rheolaidd y llwybrau ar y rhestr. Pe byddech yn dymuno awgrymu llwybrau eraill y mae gofyn eu hychwanegu at ein rhestr, a fyddech cystal â llenwi ein ffurflen o broblemau ar lwybrau neu roi gwybod i ni trwy ein ffonio neu drwy ysgrifennu at y swyddfa cynnal a chadw hawliau tramwy.
- Cynorthwyo ffermwyr a thirfeddianwyr i gynnal a chadw giatiau a chamfeydd.
- Codi arwyddion ar lwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd lle byddant yn gadael y ffordd fetel.
- Creu cyfres o farciau ar lwybrau i gynorthwyo defnyddwyr i gael hyd i’w ffordd.
- Cynnal a chadw‘r rhan fwyaf o bontydd a ffosydd.
Cyfrifoldebau tirfeddianwyr
- Cadw unrhyw hawliau tramwy’n glir o ordyfiant (h.y. gwrych yn tyfu allan ar draws y llwybr)
- Cynnal a chadw camfeydd a giatiau y mae eu hangen ar y llwybr
- Cadw’r llwybr yn glir o rwystrau – gan gynnwys tyfu cnydau
- Peidio ag aredig llwybrau sy’n rhedeg ger ymyl caeau, nac unrhyw gilffordd
- Adfer llwybrau sy’n rhedeg lletraws ar hyd caeau ar ôl aredig ac ati (yn unol â Deddf Hawliau Tramwy 1990)
Cysylltwch â'r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Os dowch ar draws unrhyw broblemau sy’n cael effaith ar hawl dramwy yn Ynys Môn, neu os byddwch yn dymuno awgrymu llwybrau eraill y mae angen eu hychwanegu at ein rhestr cynnal a chadw rheolaidd, a fyddech cystal â chysylltu â’r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Mae manylion cyswllt ar gael ar y dudalen hon.