Cyngor Sir Ynys Môn

Trin wyneb ffyrdd


Mae gwaith trin wyneb ffyrdd yn broses a ddefnyddir i wella wyneb ffyrdd ac yn arafu dirywiad wyneb y ffordd.

Mae cyflymder cyflym y broses yn golygu bod yr aflonyddwch lleiaf posibl i ddefnyddwyr ffyrdd.

Mae trin wyneb ffyrdd yn dechneg cynnal a chadw ffyrdd lle mae deunydd glynu bitwmen yn cael ei chwistrellu ar wyneb y ffordd cyn ei gorchuddio â haen o gerrig mân.

Mae’r cerrig mân yn cael eu rholio wedyn er mwyn creu wyneb newydd sy’n gwella gafael (atal sgidio) ac mae’n selio wyneb y ffordd, gan atal dŵr rhag treiddio i mewn.

Mae’n gost-effeithiol a gellir gwneud y gwaith yn gyflym.

Mae’n ychwanegu rhwng 10 a 15 mlynedd at oes y ffordd.

Mae’n atal sgidio gan olygu bod y ffyrdd yn fwy diogel.

Mae’n lleihau’r angen am waith ail-wynebu sy’n ddrutach ac yn achosi mwy o amharu.

Rhwng Ebrill a Medi fel arfer, gan fod angen tywydd cynnes, sych er mwyn i’r bitwmen lynu’n iawn.

Fodd bynnag, ychydig iawn o gontractwyr arbenigol sy’n gwneud y math yma o waith yn y DU ac mae pryd yn union y byddant yn cyrraedd ar yr ynys yn ddibynnol ar y contractwr penodol.

Y rheswm am hyn yw eu bod yn symud o un rhanbarth i’r llall er mwyn cyflawni eu rhaglenni trin wyneb ffyrdd blynyddol.

Mae’r gorchudd ei hun yn cael ei gwblhau mewn ychydig oriau ar safleoedd llai fel arfer, a gallai’r gwaith gymryd hyd at ddiwrnod i’w gwblhau ar safleoedd mwy.

Fodd bynnag, gallai gwaith sgubo cerrig mân rhydd ac ailosod marciau ffordd a llygaid cathod, os oes angen, barhau am nifer o ddiwrnodau neu wythnosau wedi hynny.

Mae gormodedd o gerrig mân yn cael eu rhoi ar wyneb y ffordd er mwyn sicrhau fod wyneb y ffordd yn cael ei gorchuddio’n gyfan gwbl.

Fel arfer, maent yn cael eu gwasgu gan gerbydau a’u sgubo’n achlysurol yn ystod y diwrnodau a’r wythnosau ar ôl gorffen y gwaith.

Bydd mesurau rheoli traffig dros dro yn cael eu defnyddio er mwyn trin y prif ffyrdd dosbarth A a B, sef gwaith confoi neu ddefnyddio arwyddion i stopio traffig, ond efallai y bydd angen cau lonydd bychan, gwledig am resymau diogelwch.

Bydd lôn yn cael ei chau oherwydd bod y peiriannau a ddefnyddir i wneud y gwaith yr un lled â’r ffordd, felly ni fydd cerbydau’n gallu pasio.

Bydd arwyddion gwyro traffig yn cael eu gosod os bydd safle mawr iawn yn cael ei drin, ond bydd y rhan fwyaf o safleoedd ar yr Ynys yn fychan a chaiff y gwaith ei gwblhau mewn ychydig oriau.

Gallai mynediad gael ei gyfyngu am gyfnod byr (rhwng 20 a 30 munud fel arfer) am resymau diogelwch.

Fel arfer bydd staff ar y safle yn gallu eich cynorthwyo i gael mynediad os yw’n bosib.

Byddwch - mae arwyddion rhagrybuddio’n cael eu gosod ar y safle (5 i 7 diwrnod ymlaen llaw fel arfer), ac efallai y bydd taflenni’n cael eu dosbarthu i fusnesau ac eiddo cyfagos cyn dechrau gwaith, os yw’r adnoddau perthnasol ar gael.

Mae awdurdodau’n gosod arwyddion rhybuddio a chyfyngiad cyflymder o thua 10mya er mwyn lleihau’r risg. Mae unrhyw ddifrod yn annhebygol os dilynir y mesurau hyn.

Gallai wyneb ffordd gael ei thrin bob 10 i 15 mlynedd, gan ddibynnu ar lefelau traffig a chyflwr presennol wyneb y ffordd.