Cyngor Sir Ynys Môn

Torri lleiniau ar ymylon priffyrdd


Bob blwyddyn rydym yn gwneud gwaith torri glaswellt ar leiniau ar ymylon y ffyrdd yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Datblygwyd y gwaith hwn yn ofalus i ddiogelu’r priffyrdd a chynnal cynefinoedd pwysig.

Mae dyletswydd arnom i gynnal priffyrdd o dan Adran 41 y Ddeddf Priffyrdd. Mae ein polisi presennol yn nodi bod rhaid i’r holl leiniau ar ymylon ein ffyrdd trefol ac mewn pentrefi gael eu torri ddeg gwaith y tymor.

Mae’r Polisi presennol ar gyfer ein rhwydwaith ffyrdd gwledig yn nodi bod rhaid i ffyrdd dosbarth A a B gael eu torri dair gwaith y tymor, a ffyrdd dosbarth C a Diddosbarth (ffyrdd lleol gyda lefelau is o draffig) ddwywaith y tymor. Ers 2010, rydym wedi gostwng pa mor aml yr ydym yn torri glaswellt ar ein ffyrdd gwledig er mwyn annog twf blodau gwyllt a darparu lle hanfodol i fywyd gwyllt ar rwydwaith yr Ynys, yn ogystal â thorri costau torri glaswellt oherwydd y cyfyngiadau ariannol parhaus a wynebir gan y Cyngor.

Mae’r mwyafrif o ffyrdd dosbarth C a Diddosbarth yr Ynys yn gul iawn a byddai’n anodd iawn torri’r glaswellt yn llai aml nac ar hyn o bryd yn ystod y tymor torri, gan y byddai’r cam hwn yn sicr o beryglu diogelwch defnyddwyr ein rhwydwaith ffyrdd. Byddai’n creu problemau mynediad i’n cerbydau gwastraff wrth iddynt deithio ar hyd lonydd gwledig cul.

Y rheswm pennaf dros dorri glaswellt ar ymylon ffyrdd yw diogelwch defnyddwyr ffyrdd, a daeth hyn yn fwy amlwg yn ystod y pandemig Covid-19, ac wedi hynny, pan welwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cerdded ac yn beicio ar ein ffyrdd gwledig. Fodd bynnag, oni bai am reolaeth ofalus a gwaith cynnal, byddai mieri a phrysgwydd yn gordyfu ar y lleiniau ar ymylon ein ffyrdd a ni fyddai ein lleiniau ar ymylon ffyrdd gwledig mor werthfawr o ran bioamrywiaeth, felly mae’n hanfodol cynorthwyo i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau ac atal rhywogaethau cystadleuol eraill, megis glaswellt, rhan gorlethu blodau gwyllt.

Yn ogystal â thorri glaswellt ar ymylon ffyrdd er budd amgylcheddol, rydym yn torri glaswellt am resymau diogelwch a gwelededd i sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd a’r amgylchedd. Mae gwaith torri glaswellt am resymau diogelwch yn cael ei wneud i greu lleiniau gwelededd ger cylchfannau, cyffyrdd a mynedfeydd eraill.

Mae’r lleiniau ar ymylon ffyrdd dosbarth C a Diddosbarth yr Ynys yn cael eu torri ddwywaith y flwyddyn, ac fel arfer mae’r toriad cyntaf yn digwydd ddechrau’r haf a’r ail doriad ddechrau’r hydref. Yn ystod y cylchoedd cyntaf ac ail, dim ond stribyn 1m o led yr ydym yn ei dorri ar bob ffordd, ac yn arbennig ar leiniau ar ymylon ffyrdd lle ceir cyfoeth o rywogaethau. Ychydig iawn o werth cynhenid sydd gan y darn hwn (y stribyn 1m cyntaf) i fywyd gwyllt oherwydd ei fod mor agos at gerbydau sy’n teithio ar y ffordd. Mae’r trydydd cylch yn doriad llawn ac mae’n digwydd ar ôl i’r blodau gwblhau eu cylch bywyd ac wedi iddynt ollwng eu hadau. Trwy wneud hyn, ceir arddangosfeydd ysblennydd o flodau gwyllt ar ymylon ein rhwydwaith ffyrdd ac maent yn ffynhonnell gyfoethog o baill a neithdar i bryfed peillio trwy gydol misoedd y gwanwyn a’r haf. Yn ogystal â ffrwyno glaswellt ac ailgyflenwi’r banc hadau blodau gwyllt, mae hefyd yn gwella diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd, yn lleihau’r baich rheoli dros gyfnod o amser ac mae’n arbed arian.

Rydym wedi ymgynghori ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynglŷn â’r gwaith hwn ac rydym wedi llunio rhaglen gynnal arbennig sy’n diogelu bywyd gwyllt mewn ardaloedd penodol. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n llwyr gefnogi ein polisi torri lleiniau ar ymylon ffyrdd.

Yn ogystal, ers nifer o flynyddoedd rydym wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ofalu am dros 20 o leiniau ar ymylon ffyrdd, yn benodol ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r safleoedd a reolir yn cael eu dynodi gan driongl gwyn ar y ffordd mewn rhai lleoliadau ac mae’r glaswellt sy’n cael ei dorri yn cael ei gasglu a’i gludo ymaith yn y gaeaf i sicrhau nad yw’r blodau’n cael eu mygu (gweler taflen Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth). Mae ein swyddogion yn gweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a bob blwyddyn maent yn arfarnu pob ardal o ddiddordeb arbennig.

Rydym yn adolygu ein trefniadau torri glaswellt yn rheolaidd er mwyn rhoi sylw i bryderon, lleihau’r effaith ar fywyd gwyllt ac annog twf mewn ardaloedd addas, a hynny wrth gyflawni ein cyfrifoldebau statudol.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.