Mae’r dudalen we yma wedi cael ei ddatblygu yn ystod yr epidemic Covid-19 fel bod plant yn gallu parhau i ddatblygu eu sgiliau ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffyrdd.
Os oes ganddo’ch cwestiwn, neu lun eich plentyn yn cyflawni sialens, a fyddech cystal ag e-bostio Diogelwchfyrdd@ynysmon.gov.uk
Sialens yr wythnos!
Sialens yr wythnos yma yw addasu'ch helmed fel ei fod yn ffitio'ch pen yn gywir ac yn ddiogel. Gwyliwch y fideo isod i gael mwy o wybodaeth ac edrych ar y taflen gwaith sydd ynghlwm.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
E-bostiwch eich lluniau at: DioglewchyFfyrdd@ynysmon.gov.uk
Amser cystadleuaeth
Hoffech chi gymryd rhan mewn cystadleuaeth Gymru gyfan? Hoffech chi'r cyfle i ennill gwobr? Efallai mai hwn yw’r sialens i chi! Cystadleuaeth creu poster ydyw gan Ddiogelwch y Ffyrdd Cymru sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Byddwn yn rhannu'r posteri buddugol ar y safle we yma ym mis Mehefin. Pob lwc plant a phobl ifanc Ynys Môn! Dyma’r manylion.
Gwahoddir pobl ifanc hyd at 18 oed i ddylunio poster a fydd yn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol yn ddiogel, yn hybu manteision terfynau cyflymder 20 mya i gymunedau neu’n annog gyrwyr i ymddwyn yn fwy diogel ledled Cymru. Bydd Partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yn rhannu’r cynigion buddugol ar eu sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol.
Canllawiau’r gystadleuaeth
- Yn ddelfrydol, dylai’r posteri fod yn A4 o ran eu maint a hynny â’r llun ar draws ac nid ar i fyny.
- Cewch greu’ch gwaith celf gan ddefnyddio fformatau digidol neu fformatau eraill.
- Dim ond un cynnig yr un sy’n cael ei ganiatáu.
- Dylech anfon eich cynigion at Diogelwch Ffyrdd Cymru, 2 Cwrt-y-Parc, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH neu communication@roadsafetywales.org.uk.
- Rhaid i’r holl waith celf fod yn wreiddiol, rhaid iddo beidio â dod o dan gyfreithiau hawlfraint na gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn, cwmni neu sefydliad.
- Caiff y cynigion buddugol eu beirniadu ar sail gwreiddioldeb, creadigrwydd, effaith a’r neges sy’n cael ei chyfleu.
Bydd y cynigion buddugol yn ennill siec am £50 gan Diogelwch Ffyrdd Cymru a chaiff hyd at 5 o fuddugwyr eu dewis ar ôl i’r gystadleuaeth gau ddydd Gwener 12 Mehefin 2020.
Edrychwn ymlaen at weld eich cynnig.
![Road Safety Wales logo](/image-library/Highways/road-safety-wales.jpg)
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.