Cyngor Sir Ynys Môn

Cartrefi modur a faniau gwersylla: canllawiau


Bwriad y canllaw hwn yw eich helpu chi i fwynhau eich ymweliad ag Ynys Môn yn gyfrifol – diogelu’r amgylchedd a’i gadw’n lân, yn daclus a diogel ar gyfer ymwelwyr a thrigolion. Mae mwy a mwy o bobl yn mynd ar eu gwyliau mewn cartrefi modur a faniau cysgu, ac er mwyn cefnogi’r galw, mae Cyngor Sir Ynys Môn ac eraill yn darparu mwy o gyfleusterau ledled yr Ynys. Braf yw cael eich croesawu i Ynys Môn, a gobeithiwn y cewch daith ddiogel a diddorol.

Y Côd Cefn Gwlad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu canllaw i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i fwynhau parciau a llwybrau dŵr, yr arfordir a’r cefn gwlad yn gyfrifol.

Mae’r Cod yn seiliedig ar dri phrif egwyddor:

Parchwch bawb

Byddwch yn ystyriol o’r rheiny sy’n byw, sy’n gweithio ac sy’n mwynhau’r cefn gwlad. Peidiwch â difrodi giatiau nag eiddo. Peidiwch â rhwystro mynediad i gaeau na lonydd preifat wrth barcio. Byddwch yn gwrtais, dywedwch helo ac rhannwch mannau. Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at y llwybrau gydag arwyddion oni bai bod mynediad ehangach ar gael.

Gofalwch am yr amgylchedd

Ewch a’ch ‘sbwriel gartref – Peidiwch a gadael llanast ar eich ôl. Peidiwch a thanio tannau, a chofiwch goginio BBQ dim ond ble y caniateir hynny. Rhaid cadw cwn dan reolaeth ac o fewn golwg. Baw ci – rhowch y baw mewn bag ac yna mewn unrhyw fin cyhoeddus, neu ewch a’r baw gartref. Gofalwch am natur – peidiwch ag achosi unrhyw ddifrod nag aflonyddwch.

Mwynhewch yr awyr agored

Cofiwch daro golwg ar eich llwybr ac amodau lleol. Trefnwch eich gweithgaredd – byddwch yn ymwybodol o’r hyn i’w ddisgwyl a beth allwch chi ei wneud. Mwynhewch eich ymweliad a chofiwch greu atgofion.

Gyrru’n ofalus

Parchwch bobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd – mae cartrefi modur fel arfer yn teithio ar gyflymder arafach na cherbydau eraill, felly edrychwch ar eich drychau’n aml a gadewch i’r traffig y tu ôl i chi fynd heibio. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi nifer o ganllawiau a all fod yn ddefnyddiol i chi wrth yrru yng Nghymru.

Gall gyrru yng Nghymru fod yn wahanol i yrru mewn gwledydd eraill. Cofiwch ystyried y canlynol:

  • 20mya - mae nifer o ffyrdd preswyl ledled Ynys Môn yn gweithredu cyfyngiad cyflymdra o 20mya.
  • Arwyddion - mae pob arwydd ledled Ynys Môn yn ddwyieithog – yn Gymraeg a Saesneg.
  • Anifeiliaid - efallai y byddwch yn dod ar draws da byw neu fywyd gwyllt ar ein ffyrdd. Arafwch a stopiwch os oes angen.
  • Parcio - peidiwch a pharcio mewn mannau pasio, ar ochr y briffordd, ar dir preifat nag o flaen unrhyw giatiau sy’n darparu mynediad i gaeau.

Parcio dros nos

Os ydych yn bwriad ymweld ag Ynys Môn ac eisiau aros dros nos yn eich cartref modur, rydym yn eich argymell i gadw at y canlynol:

Parciwch mewn safle pwrpasol ar gyfer cartrefi modur / faniau cysgu

Mae 3 chyfleuster Arosfan (tebyg i safle Aires) ar gyfer faniau gwersylla dros nos n;

  • Caergybi - Parc y Morglawdd Caergybi (LL65 1YG)
  • Biwmares - Happy Valley/ Maes Parcio Castell (LL58 8AL)
  • Rhosneigr - Tyn Tywyn (LL64 5JR)

Gwersyllfeydd preifat

Yn ystod y gwyliau gall gwersylloedd fod yn brysur iawn. Gwnewch eich ymchwil, tarwch olwg ar gyfleusterau a chysylltwch â busnesau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Parcio oddi ar y ffordd dros nos

Os ydych yn parcio oddi ar y ffordd, cofiwch gael caniatâd gan perchnogwr y tir. Os nad yw’n eglur, ceisiwch barcio yn rhywle arall

Parchwch breifatrwydd eraill

Peidiwch â pharcio y tu allan i gartrefi pobl neu ar strydoedd cymunedol. Cadwch at Y Cod Priffyrdd mewn perthynas â pharcio dros nos. 

Cael gwared ar wastraff

Sicrhewch eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol drwy ddilyn y cyngor isod:

  • Defnyddiwch gyfleusterau cael gwared ar wastraff ar gyfer cartrefi modur os ydych yn aros mewn gwersyllfa breifat.
  • Rhowch ysbwriel yn y biniau cywir. Os ydych yn gweld bod y bin yn orlawn, peidiwch ag ychwanegu ysbwriel na gadael ysbwriel wrth ei ymyl - ewch a’r ‘sbwriel gartref neu i fin arall.
  • Gallwch hefyd ddefnyddio banciau ailgylchu sydd ar gael ledled yr Ynys.

Cefnogwch fusnesau a chymunedau lleol

Wrth ymweld â’r Ynys hardd, cofiwch gefnogi ein busnesau lleol gwych. Lle bynnag sy’n bosibl – prynwch fwyd mewn siopau lleol, mwynhewch goffi a chacen mewn caffi neu bryd bwyd gyda’r nos mewn tafarn neu fwyty lleol. Mae gwersyllfeydd ar gael mewn rhai mannau gyda golygfeydd arbennig, ac rydym yn eich annog i’w defnyddio. Yn ystod y tymor prysuraf, bydd rhai o’r gwersyllfeydd hyn yn llawn, felly cofiwch archebu eich lle ymlaen llaw.