Mae Cyngor Ynys Môn yn cynnig gwasanaeth llyfrau “Galw a Chasglu” o’i llyfrgelloedd i gyd.
Mae staff y llyfrgell yn gweithio i sicrhau bod stoc ar gael i drigolion yn y modd mwyaf diogel posibl.
Gallwch ffonio’ch Llyfrgell leol i archebu llyfrau a’u casglu.
Fel arall, gallwch archebu ar-lein:
Gwasanaeth galw a chasglu: ffurflen ar-lein
Gwasanaeth Galw a Chasglu
- ffoniwch Llyfrgell Caergybi (01407) 762917, Llyfrgell Llangefni (01248) 752095, Llyfrgell Amlwch (01407) 830145, Llyfrgell Benllech (01248) 852348, Llyfrgell Porthaethwy (01248) 712706, Llyfrgell Biwmares (01248) 810659 neu Llyfrgell Rhosneigr (01407) 811293 a dywedwch wrth y staff pa fath o lyfrau yr hoffech eu cael
- bydd staff wedyn yn dewis detholiad o lyfrau ar eich cyfer
- bydd dyddiad ac amser i chi gasglu’r llyfrau yn cael ei drefnu a gallwch gasglu’r llyfrau o fynedfa’r llyfrgell
Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref hefyd yn danfon llyfrau i gwsmeriaid oedd yn derbyn ymweliad misol. Byddwn yn cysylltu gyda’r cwsmeriaid hyn i drefnu i ddosbarthu.
Cofiwch y gallwch ymuno â’r llyfrgell a lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau sain a chylchgronnau o’n gwefan.
Chwilio am fy llyrfgell leol