Mae manylion am fabwysiadu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cadw gan y Cofrestrydd Cyffredinol.
Mae’r rhain yn ymwneud â phobl sydd wedi cael eu mabwysiadu ers 1 Ionawr 1927 dan y Deddfau Mabwysiadu.
Mae tystysgrif safonol yn gopi cyflawn o’r cofnod yng Nghofrestr y Plant Mabwysiedig sydd, yn hytrach na chynnwys manylion am rieni a chofrestru’r geni, yn rhoi’r dyddiad geni (os yw’n wybyddus) a manylion am y mabwysiad a’r rhieni sydd wedi mabwysiadu. Dangos yr enw yn unig a wna’r dystysgrif fer ac ni cheir unrhyw gyfeiriad at fabwysiadu.
Tystysgrifau mabwysiadu
Dylid cyflwyno ceisiadau am dystysgrifau mabwysiadu yn ysgrifenedig i’r General Register Office, PO Box 2, Southport, Merseyside, PR8 2JD.
Gellir gwneud ceisiadau am dystysgrif safonol ar-lein ar GOV.UK hefyd (tudalen yn Cymraeg).