Cyngor Sir Ynys Môn

Dywedwch Wrthym Unwaith


Mae gan y Cyngor Sir ddwy ystafell briodas mewn safle sydd wedi cael ei gymeradwyo yn Llangefni, sydd wedi'u lleoli yn adeilad y Swyddfa Gofrestru.

Y swyddfa gofrestru

Defnyddir yr ystafell hon ar gyfer priodasau bach, a gall ddal uchafswm o 6 o bobl. Mae hyn yn cynnwys y cwpl, 2 dyst a 2 gofrestrydd.

Ystafell Bryn Cefni (ystafell y seremoni)

Gellir defnyddio'r ystafell hon ar gyfer priodasau mwy, gyda uchafswm o 42 o bobl. Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys y cwpl, 38 o westeion (gan gynnwys tystion) a 2 gofrestrydd.

Am brisiau a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â (01248) 751940 neu e-bostiwch: ⁠cofrestryddion@ynysmon.llyw.cymru

Mae’r gwasanaeth 'Dywedwch Wrthym Unwaith' yn eich galluogi i ddweud wrthym ni unwaith a byddwn yn hysbysu’r adrannau llywodraeth a’r gwasanaethau awdurdod lleol o farwolaeth yn eich teulu.

Pan fydd rhywun yn marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud. Un o’r pethau hyn yw cysylltu ag adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol. Hyd yn hyn mae wedi bod yn angenrheidiol i chi gysylltu â hwy i gyd yn unigol.

Rydym yn darparu gwasanaeth a all eich helpu chi roi’r wybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Os ydych eisiau gallant hwy wedyn basio’r wybodaeth hyn ymlaen i nifer o sefydliadau eraill.

Rhoi gwybod am farwolaeth

Sut y gall y gwasanaeth eich helpu chi

Pan fydd rhywun wedi marw mae angen cofrestru’r farwolaeth gyda’r Cofrestrydd. Unwaith y mae hynny wedi’i wneud, bydd rhaid cysylltu â nifer o sefydliadau eraill gan roi’r un wybodaeth er enghraifft gwasanaethau gofal cymdeithasol, budd-daliadau cymorth, bathodyn glas, llyfrgelloedd, asiantaethau thrwyddedu cerbydau a gyrwyr a gwasanaethau pasbord.

Sut mae’n gweithio?

Pan fyddwch yn ein ffonio i wneud eich apwyntiad i gofrestru farwolaeth yn y Swyddfa Gofrestru, bydd y gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ yn cael ei egluro i chi a byddwn yn gofyn os ydych yn dymuno cymryd rhan.

Os byddwch yn dewis cymryd rhan, bydd y cofrestrydd yn gosod y manylion ar y gronfa ddata ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ cenedlaethol. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua phum munud ar ddiwedd y cofrestriad.

Unwaith y bydd y manylion wedi’u rhoi ar y gronfa ddata cenedlaethol, yn llawn cynhelir cyfweliad ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’. Gellir gwneud hyn naill ai wyneb-yn-wyneb (gyda Cofrestrydd Ynys Môn) neu dros y ffôn os dymunir.

Wyneb-yn-wyneb

Gallwch wneud apwyntiad ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ gydag un o’n cofrestryddion ar yr un pryd â chofrestru genedigaeth neu farwolaeth neu ar ddyddiad diweddarach os yw hynny’n fwy cyfleus.

Ffoniwch 01248 751 925/26/27 i drefnu apwyntiad.

Beth fydd ei angen arnoch chi

  • Eu perthynas agosaf.
  • Unrhyw ŵr sy’n goroesi, gwraig neu bartner sifil.
  • Y person sy’n delio â’u stad.
  • Unrhyw un sy’n cael Budd-dal Plant ar eu rhan.
  • Manylion am unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau y maent yn derbyn.
  • Eu tystysgrif marwolaeth.
  • Eu (os ydych am i ni roi gwybod i’r Gwasanaeth Pasbort) Rhif Pasbort
  • Eu Rhif Trwydded Gyrrwr (os ydych am i ni roi gwybod i’r DVLA)

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth am:

  • eu rhif Yswiriant Gwladol a’u dyddiad geni
  • eu perthynas agosaf
  • unrhyw ŵr sy’n goroesi, gwraig neu bartner sifil
  • y person sy’n delio â’u stad
  • unrhyw un sy’n cael Budd-dal Plant ar eu rhan

Sut y byddwn yn trin y wybodaeth rydych yn ei roi i ni

Byddwn yn trin y wybodaeth a rydych yn ei roi i ni yn ddiogel a chyfrinachol.

Bydd y sefydliadau rydym yn cysylltu â hwy yn ei ddefnyddio i ddiweddaru budd-daliadau, credydau neu helpu i ddechrau gwasanaethau. Efallai byddant yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei roi iddynt mewn ffyrdd eraill, ond dim ond fel y mae’r gyfraith yn caniatáu.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod yr holl sefydliadau, sy’n talu budd-dâl/credyd neu’n rhoi gwasanaeth i chi, gyda’r wybodaeth gywir a diweddar amdanoch chi.