Cyngor Sir Ynys Môn

Safleoedd y cyngor sydd wedi'u cymeradwyo i gynnal priodasau yn Llangefni


Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn ddwy ystafell briodas yn adeilad y Swyddfa Gofrestru yn Llangefni.

Y Swyddfa Gofrestru

Defnyddir yr ystafell hon ar gyfer priodasau bach, a gall ddal uchafswm o 6 o bobl.

Mae hyn yn cynnwys:

  • y cwpl
  • dau dyst
  • dau gofrestrydd

Ystafell Bryn Cefni (ystafell seremoni)

Gellir defnyddio'r ystafell hon ar gyfer priodasau mwy ar gyfer uchafswm o 42 o bobl.

Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys:

  • y cwpl
  • 38 o westeion (yn cynnwys tystion)
  • dau gofrestrydd

Ffioedd a thaliadau

Ewch i'n gwybodaeth am ffioedd a thaliadau i ddarganfod mwy am brisiau.