Os ydych chi wedi penderfynu priodi mewn seremoni sifil ym Môn gallwn eich sicrhau y cewch seremoni arbennig ac unigryw ar gyfer eich anghenion chi.
Hysbysiadau priodas a phartneriaethau sifil
Rhaid cyflwyno rhybudd ffurfiol er mwyn sicrhau eich bod yn rhydd ac yn gyfreithlon i briodi/ymrwymo mewn partneriaeth sifil.
Fel arfer bydd rhaid cyflwyno eich rhybuddion yn eich swyddfa gofrestru lleol yn yr ardal rydych chi’n byw, ond mae rhai eithriadau, fel:
- os ydi un ohonoch yn byw tu allan i Gymru/Lloegr, cysylltwch â ni am gyngor ynglŷn â lle a phryd i roi rhybudd
- os ydi un ohonoch yn ddinesydd o wlad dramor, cysylltwch â ni am gyngor ynglŷn â lle a phryd i roi rhybudd
Rhaid cyflwyno eich rhybuddion o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eich seremoni ac mae’n rhaid i chi wybod lle da chi yn priodi.
Gall hyn gynyddu i 70 diwrnod yn ddibynnol ar eich statws mewnfudo.
Oherwydd hyn, rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich rhybuddion o leiaf 3 mis cyn eich seremoni.
Bydd y rhybudd ffurfiol yn cael ei arddangos ar hysbysfwrdd cyhoeddus yn yr ardal rydych chi wedi rhoi eich rhybudd (os ydych chi'n rhoi rhybudd yn Ynys Môn, bydd y rhain yn cael eu harddangos yn y Swyddfa Gofrestru yn Llangefni).
Ar ddiwedd yr amser rhybudd, bydd y Gwasanaeth Cofrestru yna’n paratoi eich atodlen, sef y ddogfen sy’n rhoi awdurdod cyfreithiol i chi briodi/ymrwymo mewn partneriaeth sifil.
Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr
Os ydych yn priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr drwy Drwydded Gyffredin neu Ostegion, dylech gysylltu efo’ch Ficer ynglyn ag unrhyw raghysbysiadau cyfreithiol angenrheidiol.
Capel, seremoni sifil neu eglwysi eraill
Os ydych yn priodi mewn unrhyw fath arall o eglwys neu gapel neu mewn seremoni sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu leoliad wedi’i gymeradwyo, rhaid rhoi rhybudd o briodas yn bersonol i’ch Cofrestrydd Arolygu lleol.
Partneriaeth sifil
Mae gan unrhyw bâr sy’n cofrestru partneriaeth sifil yr un hawliau â phâr priod o ran pethau fel treth, nawdd cymdeithasol, etifeddu a buddion gweithle.
Cofrestru yng Nghymru a Lloegr
- Mynnwch gyngor a gwybodaeth o wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Gweler y linc isod.
- Penderfynwch ble’r hoffech chi gofrestru. Er enghraifft, mewn swyddfa gofrestru neu gyrchfan wedi’i chymeradwyo fel gwesty.
- Pennwch y dyddiad, ond gwnewch yn siŵr y gall y cofrestrydd fod yn bresennol os dewiswch gyrchfan wedi’i chymeradwyo.
- Trefnwch i roi rhybudd am eich bwriad i gofrestru i’r awdurdod cofrestru lle mae’r ddau ohonoch yn byw.
- Mae’n rhaid ichi roi rhybudd o leiaf 28 diwrnod clir cyn y dyddiad cofrestru.
- Cofrestrwch. Llofnodwch y ddogfen gyfreithiol yng ngŵydd y cofrestrydd a’ch dau dyst.
Apwyntiad
Pan fyddwch yn mynd i'r Swyddfa Gofrestru, gofynnir i chi ddangos rhai dogfennau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Dylai’r dogfennau hyn fod yn ddogfennau gwreiddiol nid llungopïau, a gallant gynnwys:
- pasbort dilys
- tystysgrif geni
- trwydded yrrutystiolaeth o gyfeiriad cartref (fel bil cyfleustodau/cyfriflen banc o fewn y 3 mis diwethaf , neu fil Treth y Cyngor o fewn y flwyddyn gyfredol)
- tystiolaeth o unrhyw newid enw (fel Gweithred Newid Enw/Datganiad Statudol)archddyfarniad
- absoliwt o ysgariad
- tystysgrif marwolaeth diweddar wraig neu ŵrcyn
- Cyn 1983 cafodd person a aned yn y DU Ddinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig. I berson a aned ar ôl 1 Ionawr 1983 mae'r cenedligrwydd yn dibynnu ar genedligrwydd y rhieni.
- os nad ydych wedi cael eich pen-blwydd yn ddeunaw oed eto - caniatâd ysgrifenedig eich rhiant(rhieni) a/neu warcheidwad(gwarcheidwaid) neu unrhyw sefydliad sydd â chyfrifoldeb rhiant
Bydd ffi yn daladwy ar gyfer pob rhybudd.
Rhestr o adeiladau trwyddedig ar gyfer Seremoniau Sifil ar Ynys Môn
Lleoliad | Dyddiad darfod y drwydded | Trwydded yn enw | Manylion cyswllt | Rhifau yn yr ystafelloedd |
Gwesty y Fali, Y Fali LL65 3DU |
3 Mai 2025 |
Rheolwr |
01407 740203 |
Conservatory 120 o bobl Penrhos 50 o bobl
|
Tros yr Afon, Penmon LL58 8RN |
20 Mai 2025 |
James Grant |
07706 751045 James.grant@trosyrafon.com
|
Ystafell llunio 60 o bobl |
Ystafell Bryn Cefni, Parc Busnes, Llangefni LL77 7XA
|
14 Hydref 2025 |
Cyngor Sir Ynys Môn |
01248 751927 cofrestryddion@ynysmon.llyw.cymru
|
42 o bobl |
Gwesty Bae Trearddur |
12 Ebrill 2027 |
Rheolwr (Lees Breweries) |
01407 860301 reception@trearddurbayhotel.co.uk
|
Cledwyn 30 o bobl Penrhos 50 o bobl Dwynwen o bobl Pennant 120 o bobl |
Parc Gwledig Henblas, Llangristiolus LL62 5DL
|
16 Chwefror 2026 |
Heather Barrett |
01407 842134 info@henblascountrypark.co.uk
|
Ystafell seremoni 160 o bobl Ystafell brecwast 60 o bobl
|
Gwesty Carreg Bran, Llanfairpwll LL61 4NY
|
16 Mehefin 2024 |
Shaun and Deboarah Armitage |
01248 714224 info@carregbranhotel.co.uk
|
|
Chateau Rhainfa, Glyn Garth, Porthaethwy |
24 Mawrth 2027 |
Rhianfa Ltd. Delyth Roberts
|
01248 713655 delyth.roberts@chateaurhianfa.com
|
Banqueting Hall 80 o bobl Boudoir music room 30 o bobl Drawing room 40 o bobl Dining room 40 o bobl Great Hall 40 o bobl |
Carreglwyd, Llanfaethlu LL65 4NY
|
5 Gorffennaf 2024 |
Tom Carpenter |
01407 730208 tomcarpenter@carreglwyd.co.uk
|
Boathouse 15 o bobl Pontoon 45 o bobl Stable ground floor 60 o bobl Stable gallery 30 o bobl |
Neuadd y Dref, Caergybi |
13 Medi 2025 Adnewyddu ar y gweill
|
Clerc y Dref |
townclerk@holyheadcouncil.co.uk |
Main hall 230 o bobl Chamber 36 o bobl
|
Llawlyfr Dathliadau Ynys Môn