Cyngor Sir Ynys Môn

Cofrestru marwolaeth


Yn ôl y gyfraith, mae angen cofrestru marwolaeth o fewn 5 diwrnod calendr.

Mae'n cynnwys penwythnosau a gwyliau banc, ac mae'n berthnasol i bob marwolaeth nad yw'n cynnwys crwner.

Gwneud apwyntiad i gofrestru marwolaeth a ddigwyddodd yn Ynys Môn

Ffoniwch: 01248 751 925 

Ebost: cofrestryddion@ynysmon.llyw.cymru

Deall Ardystio Marwolaethau yng Nghymru

Gall marwolaeth rhywun sy’n agos atoch achosi gofid mawr a gall y camau rhwng y farwolaeth a’r claddu neu’r amlosgi fod yn brofiad llethol.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi trosolwg o’r broses ar gyfer cofrestru marwolaethau yng Nghymru a chanllawiau ar yr hyn y dylid ei ddisgwyl pan fydd rhywun yn marw.

Cam un: cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth

Bydd clinigydd cymwys (er enghraifft meddyg, nyrs neu barafeddyg) yn gwirio bod y person wedi marw.

Mae’r union ffordd o wneud hyn yn gallu dibynnu ar leoliad y person adeg marwolaeth.

Bydd meddyg sydd wedi eu gweld yn ystod eu bywyd (ymarferydd a fu’n gweini) yn cyfeirio’r farwolaeth naill ai at sylw Crwner Ei Fawrhydi i ymchwilio iddi, neu at sylw Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru ar gyfer craffu annibynnol.

Mae sawl rheswm pam y gall bod angen cyfeirio marwolaeth at sylw’r crwner i ymchwilio iddi, gan gynnwys yn achos:

  • damweiniau
  • trawma
  • hunan-niweidiou
  • nad yw achos y farwolaeth yn hysbys

Nid oes angen cyfeirio’r mwyafrif o farwolaethau at sylw’r crwner, a hyd yn oed pan fydd angen hysbysu’r crwner, nid yw hyn bob amser yn golygu bod yna broblem neu fod angen archwiliad post-mortem.

Os nad oes angen cyfeirio’r farwolaeth at sylw’r crwner, rhaid i’r meddyg ddrafftio tystysgrif feddygol achos marwolaeth ac anfon hon, ynghyd â manylion y perthynas agosaf a chopïau o’r nodiadau meddygol i’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.

Cam dau: Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru

Mae’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn darparu gwasanaeth craffu annibynnol yn achos pob marwolaeth sy’n digwydd yng Nghymru nad yw’n cael ei chyfeirio’n uniongyrchol at sylw’r crwner i ymchwilio iddi. Y nod yw gwella diogelwch y cyhoedd, sicrhau bod tystysgrifau marwolaeth yn gywir, yn ogystal ag osgoi gofid diangen i unigolion mewn profedigaeth.

Wrth graffu ar farwolaeth, bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn adolygu’r cofnodion meddygol ac yn ystyried a oedd problemau mewn perthynas ag unrhyw elfen o’r gofal a ddarparwyd i’r ymadawedig. Yn ystod y broses hon, bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn siarad â’r perthynas agosaf neu’r teulu i egluro achos y farwolaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.

Bydd unrhyw bryderon a godir gan y perthynas agosaf neu’r teulu yn cael eu cyfeirio at sylw’r darparwr gofal neu’r crwner i ymchwilio iddynt ymhellach os oes angen.

Cam tri: cyfeirio’r farwolaeth at sylw’r cofrestrydd

Pan fydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol wedi craffu ar y farwolaeth a’r meddyg wedi llenwi’r dystysgrif feddygol achos marwolaeth, bydd y dystysgrif yn cael ei chydlofnodi gan yr archwiliwr meddygol a’i hanfon yn electronig at y cofrestrydd yn ardal yr awdurdod lleol (rhanbarth) lle digwyddodd y farwolaeth.

Bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn rhannu manylion cyswllt y perthynas agosaf neu’r teulu er mwyn i’r cofrestrydd allu cynllunio ar gyfer cofrestru’r farwolaeth.

Cam pedwar: cofrestru’r farwolaeth

Pan fydd y cofrestrydd wedi derbyn y dystysgrif feddygol achos marwolaeth, gellir gwneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.

Nod y cofrestrydd yw cofrestru’r farwolaeth cyn pen pum niwrnod o dderbyn y dystysgrif feddygol achos marwolaeth gan y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.

Cam pump: cynllunio’r angladd

Gall y broses o gynllunio’r angladd ddechrau cyn i’r farwolaeth gael ei chofrestru, a gall aelodau’r teulu siarad â’r trefnydd angladdau i drefnu i weld eu hanwyliad cyn y claddu neu’r amlosgi, pan fo’n bosibl gwneud hynny.

Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, bydd y cofrestrydd yn cyhoeddi ffurflen werdd sy’n cadarnhau y gall y trefnydd angladdau fwrw ymlaen â’r trefniadau ar gyfer claddu neu amlosgi.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyhoeddi tystysgrif marwolaeth yng Nghymru

Bydd pawb sy’n rhan o’r broses ardystio marwolaethau yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y gellir cofrestru marwolaeth cyn gynted ag y bo modd ac i osgoi oedi pan fo hynny’n bosibl. Fodd bynnag, gall materion fel mynediad at gofnodion meddygol, cyswllt â theuluoedd, gofynion tymhorol ac ymchwiliadau pellach gan y crwner effeithio ar brydlondeb.

Cwblhau’r broses o ardystio marwolaeth cyn pen naw diwrnod yw’r nod. Fodd bynnag, dylid nodi y gall hyn gymryd mwy o amser mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fo achos y farwolaeth yn gymhleth, neu pan nad yw gwybodaeth wedi cael ei darparu mewn modd amserol.

Rhagor o wybodaeth

Ni waeth beth yw’r rheswm pam y mae rhywun wedi marw, gall dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd fod yn arbennig o anodd.

Mae pobl yn profi galar mewn gwahanol ffyrdd ac efallai y bydd ar rai eisiau neu angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd lleol

Mae gwefan llywodraeth y DU yn cynnwys canllaw manwl am y camau ychwanegol sydd angen eu cymryd pan fydd rhywun yn marw, gan gynnwys hysbysu adrannau perthnasol y llywodraeth ac ymdrin ag ystad yr ymadawedig.