Cyngor Sir Ynys Môn

Dinasyddiaeth


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweinyddu seremonïau dinasyddiaeth ar ran y Swyddfa Gartref. Seremoni dinasyddiaeth ydi’r cam olaf yn y broses o wneud cais i ddod yn ddinesydd Prydeinig. 

Mae angen i bob unigolyn dros 18 mlwydd oed sy’n symud i Brydain i fyw ac am ddod yn ddinesydd Prydeinig gymryd llw mewn seremoni dinasyddiaeth o fewn 3 mis i’w cais am ddinasyddiaeth gael ei gymeradwyo.

Sut mae trefnu seremoni dinasyddiaeth?

Os ydych yn byw ar yr Ynys ac yn derbyn llythyr gan y Swyddfa Gartref yn nodi fod angen i chi fynychu seremoni dinasyddiaeth, ffoniwch 01248 751926.

Pryd mae’r seremonïau yn cael eu cynnal?

Yn arferol, bydd seremonïau dinasyddiaeth yn cael eu cynnal unwaith y mis yn Swyddfa Gofrestru Ynys Môn. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu seremoni, ffoniwch 01248 751926