Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Datlygu Unedol i'w harchwilio (2001)



Dyma fersiwn adneuo Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn. Mae'n dilyn cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol a gynhaliwyd yn 1999 a thri mis o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gynllun drafft a gynhaliwyd yn ystod 2000.
Mae dwy ran i'r CDU. Mae rhan un yn ddatganiad ysgrifenedig o'r prif themâu y bydd y cyngor sir yn ystyried bydd yn dylanwadu ar Ynys Môn dros gyfnod y cynllun ac yn nodi'r polisïau strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir.  Yn yr ystyr hwn, mae rhan gyntaf y CDU yn nodi'r athroniaeth a fydd yn sail i ddatblygiad y cynllun. Yn rhan dau gwneir cynigion manwl ar gyfer defnyddio tir mewn cymunedau unigol.

Mae'r Pdf sydd ynghlwm wedi cael eu strwythuro fel y gellir eu cyrchu mor effeithlon â phosibl. Y Strwythur yw:

  • Datganiad Ysgrifenedig y CDU i'w Archwilio gan y Cyhoedd - Yn cynnwys Rhan 1 a 2 o'r datganiad ysgrifenedig gan gynnwys yr holl atodiadau hyd at atodiad 9.
  • Atodiad 9 - Mynegai - Yn cynnwys a mynegai rhestr o'r Mapiau Mwynau (mae pob un o'r mapiau yn  pdf unigol oherwydd eu maint)
  • Mapiau Mwynau
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.