Cam allweddol yn y broses o baratoi cynllun datblygu lleol yw nodi safleoedd posib ar gyfer defnyddiau tir amrywiol, gan gynnwys:
- tai
- cyflogaeth
- defnyddiau eraill megis defnydd cymunedol a hamdden
Mae’n bwysig hefyd nodi safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu gwerth fel tirwedd arbennig, man agored neu werth cadwraethol.
Rhwng 12 Mai 2025 a 4 Awst 2025 gwahoddwyd y cyhoedd, grwpiau cymunedol, perchnogion tir a datblygwyr i gyflwyno safleoedd posib i’w hystyried yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Mae’r broses cyflwyno safleoedd wedi dod i ben. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi’r gofrestr o safleoedd posib ar y dudalen hon maes o law.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.