Mae’n rhaid dilyn nifer o gamau statudol fel rhan o’r gwaith o baratoi a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol.
Cam cyntaf y broses yw paratoi Cytundeb Cyflawni. Mae’r cytundeb cyflawni’n cael ei rannu’n ddwy ran, sef:
- amserlen yn nodi’r prif gamau ar gyfer paratoi’r CDLl newydd; a
- cynllun cynnwys cymunedau yn nodi sut y gall rhanddeiliaid a’r gymuned gyfrannu at y broses o baratoi’r cynllun.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cytundeb cyflawni drafft a’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, yr iaith Gymraeg ac anfantais economaidd am gyfnod o 6 wythnos rhwng 23 Mai 2024 a 4 Gorffennaf 2024.
Cymeradwywyd y cytundeb cyflawni terfynol a’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, yr iaith Gymraeg ac anfantais economaidd gan Gyngor Sir Ynys Môn ar 26 Medi 2024. Derbyniwyd cytundeb Llywodraeth Cymru i’r cytundeb cyflawni ar 18 Hydref 2024.
Mae copïau o'r holl ddogfennau uchod ar gael ar y dudalen we hon ynghyd â chopïau papur ar gael i'w gweld ym mhrif swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.