Cyngor Sir Ynys Môn

Penderfyniadau cynllunio


Hysbysiadau Penderfyniad yw’r hysbysiad ffurfiol o’n penderfyniad ar gais. Mae hysbysiad o benderfyniad yn amlinellu i’r ymgeisydd os yw cais wedi cael ei ganiatáu neu ei wrthod.

Gellir chwilio a gweld ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio drwy’r gofrestr gyhoeddus cyffredinol. Byddant hefyd ar gael drwy ein gwefan fapio - MapMÔN - sy'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch cyfeiriad a'r ardal gyfagos.

Yn y cyfamser byddwn yn parhau i gyhoeddi'r ceisiadau a'r rhestrau penderfyniadau diweddaraf ar ein gwefan. Os bydd angen rhestrau blaenorol arnoch, cysylltwch â'n Gwasanaeth Cynllunio. Gweler y manylion ar y dde.

Gall penderfyniadau eu gwneud naill ai gan swyddogion neu gynghorwyr etholedig yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ddibynnol ar natur y cais.

Rydym yn darparu gwe-ddarllediad o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion diweddaraf.

Beth os nad ydw i’n cytuno â’r penderfyniad?

Mae gan pob ymgeisydd yr hawl i apelio i Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth yn erbyn naill ai wrthod caniatâd neu osod amodau. Mae nodiadau ar sut i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad yn cael eu cynnwys ar yr hysbysiad penderfyniad.

Yn achos caniatâd sydd wedi ei roi, mae’r hysbysiad o benderfyniad yn rhoi manylion am unrhyw amodau sydd wedi eu gosod.

Mewn achos lle mae caniatâd wedi ei wrthod, bydd yr Hysbysiad o Benderfyniad yn nodi’r rhesymau dros wrthod.

Yn aml, mae angen cymeradwyaethau eraill cyn y gall gwaith ddechrau, ee Rheoliadau Adeiladu. Os yw’r cymeradwyaethau hyn yn cyflwyno newidiadau sylweddol i gynllun efallai y bydd angen caniatâd cynllunio newydd.

Bydd y swyddog achos yn asesu eich cais ar sail y polisïau yn y cynllun datblygu ac unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.

Bydd adroddiad ysgrifenedig yn cael ei baratoi ar y cais fydd yn manylu’r materion cynllunio a ystyriwyd cyn dod i benderfyniad. Caiff yr adroddiad ei gadw ar ffeil y cais.

Os yw’r cais yn dderbyniol mewn egwyddor, ond efallai bod angen newid manylion iddo gyd-fynd â pholisi, byddwn fel arfer yn cyd-drafod hynny gyda chi.

Ein nod yw gwneud penderfyniadau ar y rhan fwyaf o’r ceisiadau rhwyddach o fewn wyth wythnos. Bydd ceisiadau mwy cymhleth yn cymryd yn hwy gan eu bod yn aml yn golygu casglu ac ystyried sylwadau asiantaethau’r llywodraeth a chynghorwyr arbenigol, cymdogion ac efallai wrthwynebwyr y datblygiad. Mae cais sy’n cynnwys Asesiad o Effeithiau ar yr Amgylchedd yn fwy cymhleth a 16 wythnos yw’r amser arferol a bennwyd ar gyfer penderfynu ceisiadau o’r fath.

Os yw’r penderfyniad yn mynd i gymryd yn hwy, byddwn yn trafod amserlen newydd efo chi. Mae gennych hawl i apelio os na chaiff y penderfyniad ei wneud o fewn yr amser a gytunwyd ond y cyngor yw eich bod yn trafod hyn ymhellach gyda’ch swyddog achos.

Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar eich cais bydd dogfen gyfreithiol yn dwyn yr enw “hysbysiad penderfyniad” yn cael ei gyhoeddi. Bydd yn nodi’r penderfyniad naill ai i dderbyn neu wrthod y cais gan roi rhesymau. Gall gynnwys amodau sydd angen i chi gydymffurfio â hwy wrth weithio ar eich datblygiad.

Mae hon yn ddogfen hanfodol sydd arnoch ei hangen cyn dechrau eich datblygiad.

Bryd hynny bydd angen i chi sicrhau eich bod hefyd wedi cael cydsyniadau eraill - Rheoliadau Adeiladu erenghraifft.

Bydd amodau cynllunio’n cael eu gosod ar lawer caniatâd. Caiff yr amodau hyn eu gosod i sicrhau bod manylion y datblygiad, fel y deunyddiau sydd i’w defnyddio, o’r math sy’n ofynnol gan y Cyngor. Bydd yr amodau’n rhesymol ac yn angenrheidiol i gynllunio’r datblygiad yn briodol. Mae modd eu newid neu eu dileu trwy gyflwyno cais newydd.

Mewn rhai achosion bydd gofyn cael cytundeb cyfreithiol yn ogystal fel bod modd cyflawni materion fel gwelliannau ffordd. Enw cyffredin y rhain yw cytundebau Adran 106.

Cynghorir chwi yn gryf i ddarllen yr amodau yn ofalus, yn arbennig os arbennig os ydynt yn ymwneud â materion sydd angen cytundeb pellach cyn dechrau datblygu.

Gan naill ai swyddogion neu gynghorwyr etholedig wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn dibynnu ar natur y cais.

Os oes apêl cynllunio dan sylw, yna arolygydd annibynnol fydd yn gwneud y penderfyniad.

Ar achlysuron prin iawn bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â’r penderfyniad. Gall hyn ddigwydd os bydd y cais yn codi materion pwysig iawn o fwy nag arwyddocâd lleol neu’n cynnwys materion o bwysigrwydd cenedlaethol.

Erbyn hyn, swyddogion cymwysedig y Gwasanaeth Cynllunio sy’n gwneud mwyafrif y penderfyniadau cynllunio, gyda’r penderfyniadau wedi eu seilio ar bolisïau mabwysiedig y Cyngor ac ystyriaethau perthnasol eraill. Bydd ein swyddogion yn gweithredu er lles y cyhoedd ac yn cadw at godau ymddygiad proffesiynol.

Enw’r penderfyniadau a wneir gan swyddogion yw “penderfyniadau dirprwyedig” gan iddynt gael eu gwneud dan bwerau a roddwyd i’r swyddogion gan y Cyngor Sir llawn. Yn gyffredinol, nid yw’r penderfyniadau hyn yn cynnwys y Cynghorwyr Sir yn uniongyrchol er bod ymgynghori â hwy ar yr holl geisiadau yn eu hardaloedd.

Mae gan holl Gynghorwyr Sir hawl i ofyn am gael cyfeirio ceisiadau yn eu wardiau lleol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion eu penderfynu ac, yn yr achosion hynny, ni fydd y swyddogion yn delio â’r ceisiadau dan y pwerau dirprwyedig.

Mae cynghorwyr sir yn chwarae rhan bwysig yn y broses gynllunio gyfan. 

Fel arfer, bydd y pwyllgor yn gwneud un o’r penderfyniadau canlynol ar y ceisiadau fydd o’i flaen:

  • caniatáu gydag amodau neu heb amodau
  • gwrthod (gyda rheswm(au) tros wrthod)
  • gohirio er mwyn cael ymweld â’r safle
  • gohirio i gael trafodaethau pellach
  • gohirio er mwyn cael mwy o wybodaeth

Yndi, mae gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hawl i wneud penderfyniad sydd yn hollol groes i’r hyn y mae’r swyddog cynllunio yn ei argymell, boed hynny i ganiatáu neu i wrthod y cais. Bydd penderfyniad o’r fath yn cael ei ohirio gan y pwyllgor am un mis o dan dermau’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi amser i’r swyddogion fedru adrodd yn ôl ar y rhesymau roddwyd gan yr aelodau. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y cais ar ôl y mis o ‘Amser i Feddwl’.