Cyngor Sir Ynys Môn

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE


Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE Ynys Môn 2025

Manylion y gystadleuaeth

Yr haf hwn, rydym yn gwahodd ffotograffwyr brwd i gyflwyno delwedd arbennig o Ynys Môn, yn portreadu natur, tirlun a/neu arfordir yn ystod mis Medi. Dylai’r ddelwedd amlygu nodweddion unigryw ac arwyddocaol Ynys Môn.

Bydd pedair delwedd fuddugol yn cael eu dewis gan Dîm Cefn Gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cyngor Sir Ynys Môn, i’w cynnwys yng nghalendr Tirluniau Gwarchodedig Cymru ar gyfer 2026.

Bydd enillwyr y delweddau buddugol yn derbyn calendr yn cynnwys eu delwedd. Yn ogystal, bydd yr enillydd cyffredinol yn cael cyfle i fynychu un o’n digwyddiadau AHNE ac yn derbyn 4 calendr.

Fformat llun

Gwahoddir cystadleuwyr i gyflwyno un llun y maent o’r farn sy’n cyfleu cymeriad arbennig Ynys Môn. Rhaid i ddelweddau fod yn rhai sy’n 4 megapixel o leiaf ac ar ffurf tirlun.

Sut i gymryd rhan

Anfonwch eich llun i ahne@ynysmon.llyw.cymru a chofiwch gynnwys eich enw a nodi ble tynnwyd y llun.

Dyddiad cau

Y dyddiad cau yw 22 Medi, 2025 am 5pm.

Sut bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu

Bydd yr enillydd yn cael eu hysbysu drwy e-bost ar dydd Gwener 26 Medi, 2025. 

  • Mae’r gystadleuaeth hon yn rhad ac am ddim.
  • Bydd mwy nag un cynnig gan yr un person yn cael eu hystyried, caniateir i bob cystadleuydd gystadlu uchafswm o dair gwaith.
  • Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i gadw at y telerau ac amodau hyn.
  • Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sydd heb eu derbyn am ba bynnag reswm.
  • Mae rheolau’r gystadleuaeth a sut i ymgeisio fel â ganlyn:
    • Er mwyn cystadlu, rhaid i’r llun ddangos Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn ar ei gorau.
    • Ni fydd lluniau o anifeiliaid anwes, planhigion gardd a bywyd gwyllt mewn caethiwed yn gymwys.
    • Anfonwch eich lluniau i ahne@ynysmon.llyw.cymru, a chofiwch gynnwys eich enw a nodi ble tynnwyd y llun.
  • Mae hyrwyddwr y gystadleuaeth yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn heb rybudd. Bydd y cystadleuwyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib.
  • Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ymgeisio ar y ddolen hon
  • Y dyddiad cau yw dydd Llun 22 Medi 2025 am 5pm. Ni fydd unrhyw geisiadau’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.
  • Oherwydd dyluniad y calendr rhaid i luniau fod ar ffurf tirlun (ar draws).
  • At ddibenion ansawdd, rhaid i luniau fod â 4 megapicsel o leiaf.
  • Mae’r gwobrau fel a ganlyn:
    • Bydd y 4 llun buddugol yn ymddangos yng Nghalendr Tirweddau Gwarchodedig Cymru 2026, ac yn cael copi o’r Calendr.
    • Bydd prif enillydd y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynychu digwyddiad AHNE (er enghraifft chwilota, padlo caiac, taith natur) ac yn cael 4 copiau o’r calendr.
  • Mae’r gwobrau fel y nodir uchod ac ni fydd arian parod na gwobrau eraill yn cael eu cynnig. Does dim modd trosglwyddo’r gwobrau.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan Dîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cyngor Sir Ynys Môn.
  • Bydd yr enillydd yn cael eu hysbysu drwy e-bost ar dydd Gwener 26 Medi, 2025. Os na fydd modd cysylltu ag enillydd neu os na fyddant yn hawlio’r wobr cyn pen 14 diwrnod, rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl a dewis enillydd arall yn eu lle.
  • Mae’r enillwyr yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eu henw a’u delwedd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’r lluniau. Bydd unrhyw ddata personol cysylltiedig â’r enillwyr neu unrhyw un arall sy’n cystadlu yn cael ei ddefnyddio yn gwbl unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd blaenorol y sawl sydd wedi cystadlu.
  • Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a manylion cyswllt a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth yn unig.