Cyngor Sir Ynys Môn

Budd-dal tai - gordaliadau


Eglurhad ynglyn â gordaliadau a dyled.

Os yw eich amgylchiadau yn newid gall eich Budd-dal Tai newid hefyd. Gall y newid hwn olygu eich bod yn derbyn budd-dal nad oes gennych hawl iddo. Yr enw ar y swm hwn yw Gordaliad.

Mae’r swm budd-dal rydych yn ei gael i’ch helpu i dalu eich rhent yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym pan rydych yn ei hawlio.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrthym am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Bydd gordaliadau fel arfer yn cael eu gwneud pan nad ydych yn rhoi gwybod i ni am newidiadau yn eich amgylchiadau. Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym yn syth, yn ysgrifenedig, am unrhyw newidiadau a all effeithio ar eich budd-dal.

Sut i dalu

Ar-lein

Gallwch wneud eich taliadau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd Visa a Mastercard.

Talwch ar-lein

Bydd eich tâl yn cymryd i fyny i 3 diwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif yr ydych yn gwneud tâl iddo. (Mae hyn yn cynnwys amser i wirio manylion eich cerdyn credyd/debyd gyda’r cwmni cerdyn credyd/debyd ac i’r cyngor gael ei hysbysu o’r tâl).

Siec drwy’r post

Dylid gwneud sieciau yn daladwy i ‘Cyngor Sir Ynys Môn’. Wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod rhif eich Bil wedi’i ddyfynnu ar gefn y siec. Fe ddylech postio eich siec i Gyngor Sir Ynys Môn, Blwch Post 29, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7ZF.

Canolfan Gyswllt Cwsmer

Drwy ffonio 01248 750057 rhwng 9am. a 5pm. Gofalwch fod eich cerdyn debyd / credyd wrth law os gwelwch yn dda.

Gwasanaeth taliadau ffôn

Os oes ffôn gyda botymau gwthio gennych, gallwch ddefnyddio ein system taliadau awtomatig, gan wneud taliadau gyda cardiau debyd neu gredyd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael 24 awr y dydd ar 0300 1230800.

Os byddwch yn cael trafferth defnyddio unrhyw un o’r dulliau talu hyn cysylltwch gyda ni, os gwelwch yn dda ar 01248 752015 yn ystod oriau agor Swyddfa Llangefni 9am - 4pm neu llenwch ein ffurflen ymholiadau ar-lein.