Mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru gyrraedd targed ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru.
Gellir dirwyo cynghorau os nad ydynt yn cyrraedd y targed hwn. Mae Ynys Môn yn ailgylchu 63% o’i wastraff ar hyn o bryd. Gallai Cyngor Sir Ynys Môn gael dirwy o thua £400,000 y flwyddyn yn seiliedig ar y gyfradd ailgylchu bresennol.
Mae data ac ymchwil cyfredol yn dangos y byddai’n bosib ailgylchu 52% o’r gwastraff sy’n cael ei roi yn y biniau du. Mae cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd hefyd yn isel o gymharu â chynghorau eraill.
Mae tystiolaeth gan gynghorau eraill yng Nghymru yn dangos bod modd ailgylchu mwy drwy gynnig opsiynau ailgylchu gwell i bobl, yn ogystal â chyfyngu ar y gwastraff cyffredinol sy’n cael ei roi yn y biniau du trwy leihau maint y bin.
Er mwyn i ni ailgylchu cymaint ag y gallwn, mae ‘Glasbrint Casglu’ Llywodraeth Cymru’n argymell y dylai cartrefi fod ag un bin du safonol llawn (60 litr) neu lai yr wythnos. Mae darparu biniau llai i aelwydydd yn cyd-fynd â’r ‘Glasbrint Casglu’.
Maint y biniau du llai
Yr argymhelliad sydd wedi’i gymeradwyo yw darparu biniau du newydd 180 litr o faint yn lle’r biniau 240 litr presennol.
Bydd cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu datblygu cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.
Beth fydd yn digwydd i'ch bin du presennol
Nid oes trefniadau manwl wedi'u cytuno eto.
Byddwn yn datblygu cynlluniau dros y blynyddoedd nesaf, a bydd preswylwyr yn cael gwybod ymhell cyn i unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno.