Cyngor Sir Ynys Môn

Ailgylchu a chasglu gwastraff: ymgynghoriad ar newidiadau posibl i'r gwasanaeth


Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 17 Chwefror 2026

Sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud

Pam rydym wedi ymgynghori

  • Y gyfradd ailgylchu bresennol ar Ynys Môn yw 65%. Mae angen cynyddu hyn i 70% er mwyn osgoi dirwyon posibl gan Lywodraeth Cymru.
  • Mae tystiolaeth yn awgrymu gall 52% o wastraff bin du cael i ailgylchu
  • Mae lefelau ailgylchu gwastraff bwyd yn isel 

Proses gwneud penderfyniadau

  • Ymgynghoriad cyhoeddus (7 Ionawr i 17 Chwefror 2026).
  • Dadansoddi’r canlyniadau (Mawrth i Ebrill 2026).
  • Cynhyrchu adroddiad (Mai 2026).
  • Pwyllgor Craffu (Haf 2026).
  • Cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (Haf 2026).
  • Cyfarfod o’r Cyngor Llawn (Medi 2026) - Cyflwynwyd argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i’r Cyngor Llawn mewn cyfarfod cyhoeddus. Mae’r Cyngor Llawn yn trafod ac yn pleidleisio ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth.

Nodwch fod yr holl ddyddiadau a ddarperir uchod yn fras ac efallai y byddant yn newid.

Gwybodaeth wreiddiol

Cefndir

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi nodi ymrwymiad clir i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau ein hôl troed carbon yn Cynllun y Cyngor 2023 i 2028.

Mae ôl-troed carbon yn golygu cyfanswm y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o ganlyniad i weithgareddau dynol. Mae’n dangos faint mae unigolyn, cynnyrch neu sefydliad yn ei gyfrannu i newid hinsawdd.

Mae ailgylchu yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith i leihau ein hôl-troed carbon. Gallwn helpu i greu ynys lanach, fwy gwyrdd ar gyfer ni ein hunain a chenedlaethau'r dyfodol.  Gallwn wneud hyn dryw leihau’r gwastraff sy’n mynd i gael ei waredu. 

Targedau ailgylchu gan Lywodraeth Cymru

Rhaid i bob cyngor yng Nghymru gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%. Gall cynghorau dderbyn dirwy os ydynt ddim yn cyraedd y targed.

Mae 'Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2024 i 2029' Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu cyfraddau ailgylchu a chyrraedd y targed o 70%. 

Ar hyn o bryd 65% o wastraff Ynys Môn sy’n cael ei ailgylchu. Yn seiliedig ar y gyfradd ailgylchu hon, gallai'r Cyngor Sir Ynys Môn wynebu dirwy o tua £350k y flwyddyn. Mae hyn yn arian gall ei wario ar wasanaethau hanfodol.

Ein sefyllfa bresennol

Mae ymchwil a data diweddar yn dangos y gall tua 52% o'r gwastraff sydd wedi'i roi mewn biniau du ar Ynys Môn gael ei ailgylchu.

Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn gymharol isel o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Rydym hefyd yn gwybod fod rhai aelwydydd yn gweld storio cardfwrdd dros ben yn broblem.  

Mae tystiolaeth gan gynghorau eraill yng Nghymru yn dangos bod rhoi mwy o gyfleoedd i aelwydydd ailgylchu, tra'n lleihau faint o le sydd ar gael ar gyfer gwastraff cyffredinol sy’n mynd i’r bin du yn arwain at gyfraddau ailgylchu uwch. 

Er mwyn ailgylchu cymaint ag y gallwn, mae 'Glasbrint Casglu' Llywodraeth Cymru  yn argymell y dylai aelwydydd gael un bag du safonol llawn (60 litr) neu lai yr wythnos.

Ar hyn o bryd mae gan y rhan fwyaf o aelwydydd Ynys Môn bin du 240 litr sy'n cael ei gasglu unwaith bob 3 wythnos.

Sut ydyn ni eisiau newid casgliadau ailgylchu a gwastraff

Rydym am wneud ailgylchu yn haws ac yn fwy cyfleus i drigolion. Drwy wneud hyn, byddwn yn bodloni targedau ailgylchu cenedlaethol ac yn osgoi dirwyon mawr.

Rydym yn ystyried:

  • addasu cyfluniad y bocs troli er mwyn casglu papur a chardfwrdd gyda'i gilydd
  • darparu cynwysyddion ychwanegol i aelwydydd i storio ailgylchu ychwanegol
  • lleihau faint o wastraff a gesglir pob wythnos trwy wagio biniau du bob 4 wythnos yn hytrach na phob 3 wythnos

Y cynharaf y gallai unrhyw newid i'r gwasanaeth casglu ddechrau fyddai 2029. Mae hyn oherwydd bydd rhaid i ni brynu cerbydau newydd a gwneud newidiadau i’n safleoedd gwastraff ac ailgylchu. 

Hoffem glywed eich barn

Rydym yn deall bod gan wahanol aelwydydd anghenion gwahanol a bod yn bosib bod pryderon gennych am unrhyw newidiadau.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi rannu eich barn. Rydym eisiau deall sut rydych chi’n teimlo am yr hyn yda ni eisiau wneud, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. 

Bydd eich barn yn ein helpu i:

  • lunio gwasanaeth sy’n bodloni anghenion trigolion Môn
  • cefnogi ein hymrwymiad i warchod yr amgylchedd a lleihau ein hôl-troed carbon
  • cyrraedd targed ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru

Holiadur ar-lein

Treuliwch ychydig funudau’n cwblhau’r holiadur.  Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni.

Bydd yr holiadur yn cau am 11.59pm ar 17 Chwefror 2026.

Ewch i'r holiadur ar-lein

Sesiynau galw heibio

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn cynnwys nifer o sesiynau galw heibio i lyfrgelloedd yr ynys ar gyfer aelodau o'r cyhoedd.

Sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori ar ailgylchu a gwastraff
LyfrgellDyddiadAmser
Amlwch 13 Ionawr 10am tan 12pm
Biwmares 16 Ionawr 10am tan 12pm
Benllech 20 Ionawr 1pm tan 3pm
Caergybi 21 Ionawr 11am tan 1pm
29 Ionawr 4pm tan 6pm
Llangefni 26 Ionawr 2pm tan 4pm
30 Ionawr  5pm tan 7pm
Porthaethwy 5 Chwefror 1pm tan 3pm
Rhosneigr 5 Chwefror 10am tan 12pm