Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth casglu clytiau


Rydym yn darparu gwasanaeth casglu clytiau i gartrefi ar Ynys Môn gyda phlant mewn clytiau lle telir Treth Gyngor ddomestig safonol.

Rheolau

Bydd yn rhaid i’r plentyn fod o dan 4 mlwydd oed ac yn byw yn yr eiddo’n barhaol; ni allwch roi cais i mewn am ddau gyfeiriad ar wahan.

Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben unwaith y bydd y plentyn yn 4 oed. (Bydd ceisiadau pellach yn cael eu cysidro ar sail achos wrth achos).

Os nad oes bagiau yn cael eu cyflwyno am 3 casgliad yn olynol, bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

Mae’r rheolau ynglyn a’r gwasanaeth casglu clytiau yn ein Polisi ar gyfer Casglu Gwastraff Domestig.

Gwneud cais

I wneud cais am y gwasanaeth, llenwch y ffurflen ar-lein ar y dudalen hon.

Byddwn yn cysylltu â chi unwaith y byddwn wedi adolygu eich cais.

Amserlen y gwasanaeth casglu clytiau

Os ydych wedi cael eich cymeradwyo ar gyfer y gwasanaeth hwn, bydd eich clytiau yn cael eu casglu wythnos cyn eich casgliad bin du, ar yr un diwrnod o’r wythnos a’ch casgliad ailgylchu arferol.

Fel enghraifft, os bydd gwastraff eich bin du yn cael ei gael ei gasglu ar ddydd Mercher, bydd eich clytiau yn cael eu casglu ar ddydd Mercher hefyd, wythnos cyn y bydd y gwastraff bin du yn cael ei gasglu.

Os nad ydych yn siŵr pryd mae gwastraff eich bin du yn cael ei gasglu, gallwch wirio eich diwrnod casglu. Yna, gwnewch yn siŵr bod eich bag clytiau yn cael ei roi yn y man casglu perthnasol am 7am ar y diwrnod casglu, wythnos cyn y casgliad gwastraff bin du.