Cyngor Sir Ynys Môn

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Penhesgyn


Dim angen bwcio

Nid oes angen i chi logi slot ymlaen llaw er mwyn defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref Penhesgyn.

Rhaid archebu eich ymweliad os ydych am ddefnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref Gwalchmai

Amodau llym canlynol

Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5 metr na’n uwch na 2.1 metr yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.

Prawf preswylio

Pan fyddwch yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref Penhesgyn rhaid i chi ddangos prawf o breswyliad ar Ynys Môn, megis:

  • bil Treth Gyngor (blwyddyn ariannol gyfredol)
  • trwydded yrru
  • bil cyfleustodau (dim hŷn na 3 mis)

Gyda'ch car ar stop, daliwch y ddogfen sy’n profi eich bod yn byw ar yr ynys ar y ffenestr flaen/ffenestr wedi cau i aelod o staff y Cyngor ei harchwilio drwy’r ffenestr er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Os na fyddwch yn dangos prawf o breswyliad, efallai na fyddwch yn cael mynediad i'r safle.

Gwyliau banc

Nid yw oriau agor Penhesgyn yn cael eu heffeithio ar wyliau banc ac eithrio:

  • Dydd Nadolig
  • Gŵyl San Steffan
  • Dydd Calan

Dydd

Oriau agor

Amser cau

Dydd Llun

10am

4:30pm

Dydd Mawrth

10am

4:30pm

Dydd Mercher

Ar gau

Dydd Iau

Ar gau

Dydd Gwener

10am

4:30pm

Dydd Sadwrn

10am

4:30pm

Dydd Sul

10am

4:30pm

Mae’r safle ailgylchu gwastraff cartref wedi’i leoli oddi ar y B5420 sef y Ffordd Penmynydd rhwng Llangefni a Phorthaethwy.

O gyfeiriad Porthaethwy, gyrrwch heibio Pili Palas am hanner milltir a throwch i’r dde am y ganolfan ailgylchu.

Y cod post yw LL59 5RY

Gallwch ailgylchu pob math o wastraff domestig megis:

  • gwastraff gardd
  • dillad a thecstiliau
  • poteli plastig
  • paent
  • cetris inc argraffydd
  • pren a choed
  • poteli gwydr a jariau
  • cartonau
  • cemegau cartref a gardd (wedi eu labelu yn glir)
  • batris
  • papur a chardbord
  • oergelloedd a rhewgelloedd, teclynau bach/mawr, teledai a monitrau
  • tiniau bwyd a chaniau diod, metel sgrap
  • dodrefn
  • gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu

Derbynnir nifer cyfyngedig o’r deunyddiau canlynol:

  • pridd
  • rwbel
  • gwastraff DIY
  • batris car
  • teiars
  • asbestos (Derbynnir symiau bach mewn bagiau wedi eu selio)
  • poteli nwy
  • olew peiriant

Yn anffodus nid yw’r canolfannau yn derbyn y canlynol:

  • chwyn gwenwynig a boncyffion coed mawr
  • deunyddiau ffrwydrol
  • hylifau tra fflamadwy e.e petrol
  • symiau mawr o wastraff adeiladu, adnewyddiad neu DIY

Gwastraff busnes

Ni dderbynnir gwastraff busnes yn y canolfannau ailgylchu. Nid ydym yn drwyddedig i gymryd unrhyw fath o wastraff busnes. Mae masnachwyr yn torri’r gyfraith os ydynt yn cael gwared o wastraff yn y safleoedd hyn.

Os bydd unrhywun yn dod â gwastraff y cartref i’r safleoedd hyn mewn cerbyd masnachol efallai bydd gofyn iddynt ei ddatgan fel gwastraff y cartref. Dylech baratoi i gael eich sbwriel wedi ei archwilio i sicrhau nad gwastraff busnes ydyw.

Os ydych angen mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Adain Rheoli Gwastraff os gwelwch yn dda ar (01248) 750 057.

Byddwch angen caniatâd i ymweld â CAGD gyda’r cerbydau canlynol:

  • ‘pickup’
  • fan fechan
  • fan fechan ar gyfer cludo nwyddau (o fath ‘transit’)
  • minibws bychan neu gar preifat gyda threlar o faint canolig rhwng 1.8m a 3m o hyd
  • cerbyd gydag arwydd arno

Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5m na’n uwch na 2.1m yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gweler y Cynllun Caniatâd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestigarnoch

Mae’r cyngor yn rhagweld y bydd nifer uchel o gerbydau yn ymweld yn ystod y cyfnodau prysuraf a ni fydd modd pennu amseroedd aros, felly disgwylir y bydd yna giwiau – byddwch yn amyneddgar a disgwyliwch am gyfarwyddyd i ddod i mewn i’r safle os gwelwch yn dda.

Cadwch at y system rheoli traffig a'r arwyddion cyfarwyddiadau ar y safle os gwelwch yn dda.

Ni all y trelar fod yn hirach na 1.8 metr o hyd.

Rhaid i’r cerbyd sy’n tynnu’r trelar fod yn gar safonol o fath domestig. 

Os yw’r cerbyd sy’n tynnu’r trelar yn gerbyd masnachol o dan ddiffiniad ffurfiol y cyngor, ni fyddwch yn cael mynediad i’r safle.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gweler y Cynllun Caniatâd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestigarnoch

Mae slotiau ar gael i drigolion Ynys Môn gasglu'r gwellhäwr pridd. o Ganolfan Ailgylchu Penhesgyn o 26 Mawrth ar ddydd Mercher a dydd Iau.

Ffoniwch 01248 713313 ar ôl 9am i archebu eich slot os gwelwch yn dda.