Dim ond ymweliadau a archebwyd ymlaen llaw a ganiateir i fynd i mewn i'r safle.
Archebu eich ymweliad ar-lein
Mae'r ffurflen yn derbyn archebion am y slotiau 7 diwrnod ymlaen llaw.
Archebwch eich ymweliad dros y ffôn
Ffoniwch y Tîm Rheoli Gwastraff ar (01248) 750 057 (nid yw'r opsiwn hwn ar gael ar benwythnosau a gwyliau banc)
Amodau llym canlynol
Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5 metr na’n uwch na 2.1 metr yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.
Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd a staff bob amser yn ystod ymweliadau â Chanolfan Ailgylchu Domestig Gwalchmai, rydym wedi cyflwyno'r amodau llym canlynol.
Gwyliau banc
Nid yw oriau agor Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Gwalchmai yn cael eu heffeithio ar wyliau banc ac eithrio:
- Dydd Nadolig
- Gŵyl San Steffan
- Dydd Calan
|
Dydd
|
Oriau agor |
Amser cau
|
|
Dydd Llun
|
Ar gau
|
|
Dydd Mawrth
|
Ar gau |
|
Dydd Mercher
|
10am |
4:30pm |
|
Dydd Iau
|
10am |
4:30pm |
|
Dydd Gwener
|
10am
|
4:30pm
|
|
Dydd Sadwrn
|
10am
|
4:30pm
|
|
Dydd Sul
|
10am
|
4:30pm
|
Beth allwch chi ei ailgylchu
Gallwch ailgylchu pob math o wastraff domestig megis:
- gwastraff gardd
- dillad a thecstiliau
- poteli plastig
- paent
- cetris inc argraffydd
- pren a choed
- poteli gwydr a jariau
- cartonau
- cemegau cartref a gardd (wedi eu labelu yn glir)
- batris
- papur a chardbord
- oergelloedd a rhewgelloedd, teclynau bach/mawr, teledai a monitrau
- tiniau bwyd a chaniau diod, metel sgrap
- dodrefn
- gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu
Derbynnir nifer cyfyngedig o’r deunyddiau canlynol:
- pridd, rwbel, gwastraff DIY
- batris car
- teiars
- asbestos (Derbynnir symiau bach mewn bagiau wedi eu selio)
- poteli nwy
- olew peiriant
Yr hyn na allwch ei ailgylchu
Nid yw’r canolfannau yn derbyn y canlynol:
- chwyn gwenwynig a boncyffion coed mawr
- deunyddiau ffrwydrol
- hylifau tra fflamadwy e.e petrol
- symiau mawr o wastraff adeiladu, adnewyddiad neu DIY
Gwastraff busnes
Ni dderbynnir gwastraff busnes yn y canolfannau ailgylchu. Nid ydym yn drwyddedig i gymryd unrhyw fath o wastraff busnes. Mae masnachwyr yn torri’r gyfraith os ydynt yn cael gwared o wastraff yn y safleoedd hyn.
Os bydd unrhywun yn dod â gwastraff y cartref i’r safleoedd hyn mewn cerbyd masnachol efallai bydd gofyn iddynt ei ddatgan fel gwastraff y cartref. Dylech baratoi i gael eich sbwriel wedi ei archwilio i sicrhau nad gwastraff busnes ydyw.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Adain Rheoli Gwastraff os gwelwch yn dda ar (01248) 750 057.
- Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5 metr na’n uwch na 2.1 metr yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.
- Os credwch fod angen trwydded ar gyfer eich cerbyd/trelar cysylltwch â Thîm Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn ar (01248) 750 057 neu ewch i dudalen we.
Byddwch angen caniatâd i ymweld â CAD gyda’r cerbydau canlynol:
- ‘pickup’
- fan fechan
- fan fechan ar gyfer cludo nwyddau (o fath ‘transit’)
- minibws bychan neu gar preifat gyda threlar o faint canolig rhwng 1.8m a 3m o hyd
- cerbyd gydag arwydd arno
Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5m na’n uwch na 2.1m yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gweler y Cynllun Caniatâd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Domestig
Am holl fathau o drelars bach o fath domestig:
- ni all y trelar fod yn hirach na 1.8 metr o hyd
- rhaid i’r cerbyd sy’n tynnu’r trelar fod yn gar safonol o fath domestig. Os yw’r cerbyd sy’n tynnu’r trelar yn gerbyd masnachol o dan ddiffiniad ffurfiol y cyngor, ni fyddwch yn cael mynediad i’r safle
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach gweler y Cynllun Caniatâd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Domestig.
- Mae'n debygol y bydd ciwiau yn y ganolfan ailgylchu oherwydd cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael mynd i mewn ar y tro ac arolygon pellach
- Ni fyddwch yn cael mynd i mewn i'r safle heb gyfeirnod archebu dilys neu os ydych yn methu cwrdd â’r meini prawf mynediad a nodir uchod
- Cadwch at y system rheoli traffig a'r arwyddion cyfarwyddiadau os gwelwch yn dda
- Byddwch yn amyneddgar a pharchwch y staff sy'n gweithio yn y ganolfan bob amser os gwelwch yn dda
Ni chaniateir i ddeiliaid cartrefi ddod ar y safle i gael gwared ar eu gwastraff os nad ydynt yn cadw at y canllawiau defnydd sydd mewn lle.
Cwestiynau cyffredin
Mae’r ganolfan wedi’i lleoli ar yr A5, tu allan i Walchmai, ar ochr Caergybi o’r pentref. Gellir ei gyrraedd o’r A55 (Cyffordd 5).
Y côd post yw LL65 4PW.
Oes.
Byddwn yn gwirio eich rhif cofrestru yn erbyn y cofrestriad.
Caniateir un ymweliad i bob cartref er mwyn gwneud yn siŵr bod cynifer o gartrefi â phosibl yn cael cyfle i gael gwared ar eu gwastraff.
Yn anffodus, os byddwch yn methu eich apwyntiad, bydd yn rhaid i chi wneud cais arall am le ar gyfer diwrnod arall.
Ceisiwch gyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau.
Bydd gennych 10 munud ar y safle i wagio eich car o eitemau ailgylchu/gwastraff. Sicrhewch eich bod yn gorffen dadlwytho eich gwastraff o fewn yr amser hwn.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu eich gwastraff cyn dod, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dadlwytho o fewn eich slot 10 munud.
Oes, gwnewch hyn cyn dod os gwelwch yn dda.