Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Tachwedd 2022
Ymgynghoriad gwreiddiol
Cefndir
Mae barn a mewnbwn holl drigolion, busnesau a rhanddeiliaid Ynys Môn yn cael ei ofyn amdano er mwyn cynorthwyo’r gwaith o lunio blaenoriaethau gwariant a gwasanaethau’r dyfodol.
Wedi’i lansio 20 Medi mae’r arolwg ymgynghori ‘Ein Dyfodol’ yn dilyn yr ymarfer ymgynghori ‘Blaenoriaethau Ynys Môn: Eich Barn’ (Chwefror/Mawrth 2022) a roddodd gyfle i unigolion a busnesau fynegi eu blaenoriaethau ar gyfer Ynys Môn.
Bydd yr ymgynghoriad wyth wythnos, hyd at 14 Tachwedd, yn rhoi’r cyfle i drigolion Ynys Môn, busnesau a rhanddeiliaid i gael lleisio eu barn wrth i’r cyngor sir ddatblygu a pharatoi ei nodau ac amcanion tymor hir.
Mae’r blaenoriaethau’r cyngor newydd wedi’i osod yn erbyn cefndir yr argyfwng costau byw a’r heriau ariannol sylweddol y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Bydd y cynllun newydd yn canolbwyntio ar ddarparu Ynys Môn iach a llewyrchus sy’n ffynnu.
Mae’r ymgynghoriad ‘Ein Dyfodol’ yn gofyn am farn y cyhoedd ar y blaenoriaethau arfaethedig o ran darpariaeth gwasanaethau’r cyngor; sut y dylid eu hariannu a sut y gellir gwella ansawdd bywyd ar Ynys Môn yn gyffredinol.
Holiadur ar-lein
Mae’r ymgynghoriad ar-lein wedi cau.
Dweud eich dweud
Ffyrdd eraill o gwblhau'r arolwg
Fel dewis arall, gallwch gael copi o’r holiadur (a’i ddychwelyd) o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, Oriel Môn neu brif swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni, neu gallwch hefyd ei bostioi Ein Dyfodol, Gwasanaethau Trawsnewid, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni LL77 7TW.
Gallwch lawrlwytho copi o'r arolwg o'r dudalen we hon a'i bostio i Ein Dyfodol, Gwasanaethau Trawsnewid, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, LL77 7TW.
Rydym yn fodlon darparu’r holiadur hon mewn fformatau amgen ar gais trwy cysylltu gyda EinDyfodol@ynysmon.llyw.cymru
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.