Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol: cam statudol


Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Ymgynghoriad gwreiddiol

Diolch i chi am ein helpu i nodi rhwystrau a gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio Teithio Gweithredol fel rhan o'r cam cyntaf a’r ail gam o’r ymgynghoriad. 

Mae’r cam terfynnol (statudol) o’r broses ymgynghori ar gyfer Ynys Môn bellach ar agor. 

Dweud eich dweud

Map Drafft Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach yn ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Gweithredol (ATNM) drafft ac yn eich gwahodd i edrych ar ein cynigion a dweud wrthym beth yw eich barn. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol fel rhan o’i ddyletswyddau dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. 

Pam mae’r Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol yn bwysig?

Rydym ni’n gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i weithredu’r cynigion ar fap y Rhwydwaith Teithio Llesol. Os nad yw llwybrau ar y map, fyddan nhw ddim yn gymwys i dderbyn cyllid, felly mae’n bwysig ein bod ni’n deall beth sy’n bwysig i drigolion Ynys Mon yng nghyswllt llwybrau cerdded a beicio.

Y darlun ehangach

Mae’r prosiect hwn yn rhan o fenter genedlaethol yng Nghymru. Bob tair blynedd, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys pobl leol wrth ddiweddaru ein cynlluniau rhwydwaith teithio llesol. Mae deddfwriaeth unigryw yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud hyn – mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn gosod uchelgais glir i hybu cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol.

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru a bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn 31 Rhagfyr 2021 i'w gymeradwyo.

Beth hoffem i chi ei wneud 

Dywedwch wrthym a ydych chi’n cytuno gyda ein llwybrau cerdded a beicio arfaethedig, ac a fyddant o fudd i chi. Os na byddai, dywedwch wrthym pa welliannau eraill sydd eu hangen. Byddem yn ddiolchgar pe fuasech yn ymateb i’r holiadur ar-lein ar gyfer yr ardal dynonedig sydd gennych mewn cwestiwn.

Beth nesaf?

Byddwn yn casglu pob un o’ch sylwadau oddi ar ein teclyn mapio ar-lein. 

Hwn yw’r cam statudol yn y broses ymgynghori ac y cyfle olaf i lleisio eich barn. Wedi hynny, bydd CSYM yn cyflwyno ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru ei ystyried, erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Rhannwch y neges 

Diolch i chi am ein helpu i nodi rhwystrau a gwelliannau i gerdded a beicio ar Ynys Môn. 

Er mwyn creu Map Rhwydwaith Teithio Llesol fydd yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol ehangach pobl ar Ynys Môn, rydym yn awyddus i gasglu barn pawb o bob rhan o’r gymdeithas. Rhannwch y wybodaeth hon â’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymunedau. 

Gellir trefnu copïau papur o’r map rhwydwaith a’r arolwg ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein. Cysylltwch â Dylan Llewelyn Jones am ragor o wybodaeth ar 01248 751805 neu ebost teithiollesol@ynysmon.gov.uk

Mae “teithio llesol” yn golygu gwneud taith drwy gerdded neu feicio. Mae “taith lesol” yn golygu unrhyw siwrnai i gyrchfan sy’n cyflawni diben. Mae’r diffiniad yn cynnwys teithio i’r gwaith, teithio i’r ysgol a chyfleusterau addysg eraill, teithio i’r siop, teithio i gyfleusterau hamdden, teithio i gyfnewidfa cludiant cyhoeddus ac ati.

Nid yw’r diffiniad o Lwybrau Teithio Llesol yn cynnwys llwybrau sydd at ddefnydd hamdden yn unig (er enghraifft, llwybrau a fwriedir fel llwybrau beicio mynydd neu lwybrau oddi ar y ffordd) yn ogystal â llwybrau nad ydynt yn cysylltu cyfleusterau a gwasanaethau â’i gilydd neu ag ardaloedd preswyl.

Er, yn ymarferol, bydd y llwybrau teithio llesol gorau yn cael eu defnyddio’n helaeth ar gyfer hamdden. Am ragor o wybodaeth am deithio llesol, gweler y drafft diwygiedig o Ganllawiau Teithio Llesol (Chwefror 2020) Llywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth

Yn dilyn y rownd ymgynghori gyntaf yn 2016, ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, mae gan Ynys Môn 7 anheddiad Teithio Llesol sy’n cynnwys

  • Amlwch
  • Benllech
  • Caergybi
  • Llanfairpwll
  • Llangefni
  • Porthaethwy
  • Y Fali

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cwrdd â’r dyletswyddau y manylir arnynt yn eu hardaloedd dynodedig.

Fodd bynnag, os yw asesiad yr awdurdod lleol o’r galw am deithiau llesol yn nodi y byddai llwybr i leoedd tu allan i’r ardaloedd dynodedig yn denu defnyddwyr, gellir cynnwys y llwybrau ym Map Rhwydwaith Teithio Llesol yr awdurdod a’u hasesu ar gyfer eu blaenoriaethu.