Cyngor Sir Ynys Môn

Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol - ail gam


Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Ymgynghoriad gwreiddiol

Diolch i chi am ein helpu i nodi rhwystrau a gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio Teithio Gweithredol fel rhan o'r ymgynghoriad cychwynnol.

Mae 2il Gam o’r broses ymgynghori ar gyfer Ynys Môn bellach ar agor. 

Adolygiad Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Map Drafft Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach yn ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Gweithredol (ATNM) drafft ac yn eich gwahodd i edrych ar ein cynigion a dweud wrthym beth yw eich barn. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol fel rhan o’i ddyletswyddau dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. 

Llwybrau presennol

Mae’r map ar y linc uchod yn dangos y llwybrau cerdded a beicio presennol sydd eisoes yn bodoli, fel llinellau solet. Gallwch adael sylw os oes rhywbeth ar goll – efallai eich bod yn gwybod am lwybr troed defnyddiol nad yw’n ymddangos ar y map sy’n cysylltu dwy stryd breswyl gydag ysgol, neu gallwch wneud sylw os oes gennych syniad am sut gellid gwella mwy ar y llwybr. Gollyngwch bin ar y map a rhannwch eich sylwadau gyda ni.

Llwybrau’r dyfodol

Prif ffocws yr ail gam hwn o’r ymgynghoriad yw rhannu cynlluniau ar gyfer llwybrau’r dyfodol ar y Rhwydwaith Teithio Llesol.

Dangosir llwybrau’r dyfodol fel llinellau dotiog ar y map – glas ar gyfer beicio, melyn ar gyfer cerdded, a gwyrdd ar gyfer llwybrau cerdded/beicio cyfun.

Mae'r llwybrau arfaethedig hyn yn y dyfodol yn seiliedig ar ein cynlluniau presennol a'r syniadau a gyflwynwyd gennych yn gynharach yn y flwyddyn yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol.

Noder mai plotio'r llwybrau ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yw'r cam cyntaf yn y broses ac efallai na fyddwn yn gallu cyflwyno pob llwybr ar y map oherwydd gall gymryd nifer o flynyddoedd i ddatblygu a gweithredu llwybrau yn y dyfodol (ac mae'n seiliedig ar sicrhau cyllid allanol).

Y darlun ehangach

Mae’r prosiect hwn yn rhan o fenter genedlaethol yng Nghymru. Bob tair blynedd, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys pobl leol wrth ddiweddaru ein cynlluniau rhwydwaith teithio llesol. Mae deddfwriaeth unigryw yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud hyn – mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn gosod uchelgais glir i hybu cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol.

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru a bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn hwyr yn 2021 i'w gymeradwyo.

Ar ôl ei gymeradwyo, gallwn wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i weithredu'r cynigion ar y map.

Felly, os nad yw llwybrau wedi'u cynnwys ar y map, nid ydynt yn gymwys i gael cyllid, felly mae'n bwysig bod cymaint o bobl â phosib yn dweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw. 

Beth hoffem i chi ei wneud 

Dywedwch wrthym a ydych chi’n cytuno gyda ein llwybrau cerdded a beicio arfaethedig, ac a fyddant o fudd i chi. Os na byddai, dywedwch wrthym pa welliannau eraill sydd eu hangen. 

Yn syml, dewisiwch ‘gweld map a rhoi sylwadau’ a gollwng pon ar y map yn y lleoliad priodol, neu ar y llwybr rydych am wneud sylwadau amdano. 

Beth nesaf?

Byddwn yn casglu pob un o’ch sylwadau oddi ar ein teclyn mapio ar-lein. 

Wrth ddefnyddio eich sylwadau, byddwn yn mireinio y Map Rhwydwaith Teithio Llesol ac yna yn cynnal trydydd cam ymgynghori, sef y cam olaf. Hwn fydd y cam statudol yn y broses ymgynghori fydd yn digwydd tua diwedd y flwyddyn. Wedi hynny, bydd CSYM yn cyflwyno ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru ei ystyried, erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Rhannwch y neges 

Diolch i chi am ein helpu i nodi rhwystrau a gwelliannau i gerdded a beicio ar Ynys Môn. 

Er mwyn creu Map Rhwydwaith Teithio Llesol fydd yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol ehangach pobl ar Ynys Môn, rydym yn awyddus i gasglu barn pawb o bob rhan o’r gymdeithas. Rhannwch y wybodaeth hon â’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymunedau. 

Gellir trefnu copïau papur o’r map rhwydwaith a’r arolwg ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein. Cysylltwch â Dylan Llewelyn Jones am ragor o wybodaeth ar 01248 751805 ne ebost teithiollesol@ynysmon.gov.uk 

Gwybodaeth ychwanegol 

Beth yw Teithio Llesol?

Mae “teithio llesol” yn golygu gwneud taith drwy gerdded neu feicio. Mae “taith lesol” yn golygu unrhyw siwrnai i gyrchfan sy’n cyflawni diben. Mae’r diffiniad yn cynnwys teithio i’r gwaith, teithio i’r ysgol a chyfleusterau addysg eraill, teithio i’r siop, teithio i gyfleusterau hamdden, teithio i gyfnewidfa cludiant cyhoeddus ac ati.

Nid yw’r diffiniad o Lwybrau Teithio Llesol yn cynnwys llwybrau sydd at ddefnydd hamdden yn unig (er enghraifft, llwybrau a fwriedir fel llwybrau beicio mynydd neu lwybrau oddi ar y ffordd) yn ogystal â llwybrau nad ydynt yn cysylltu cyfleusterau a gwasanaethau â’i gilydd neu ag ardaloedd preswyl.

Er, yn ymarferol, bydd y llwybrau teithio llesol gorau yn cael eu defnyddio’n helaeth ar gyfer hamdden. Am ragor o wybodaeth am deithio llesol, gweler y drafft diwygiedig o Ganllawiau Teithio Llesol (Chwefror 2020) Llywodraeth Cymru. 

Ardaloedd Teithio Llesol Ynys Môn

Yn dilyn y rownd ymgynghori gyntaf yn 2016, ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, mae gan Ynys Môn 7 anheddiad Teithio Llesol sy’n cynnwys

  • Amlwch
  • Benllech
  • Caergybi
  • Llanfairpwll
  • Llangefni
  • Porthaethwy
  • Y Fali

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cwrdd â’r dyletswyddau y manylir arnynt yn eu hardaloedd dynodedig.

Fodd bynnag, os yw asesiad yr awdurdod lleol o’r galw am deithiau llesol yn nodi y byddai llwybr i leoedd tu allan i’r ardaloedd dynodedig yn denu defnyddwyr, gellir cynnwys y llwybrau ym Map Rhwydwaith Teithio Llesol yr awdurdod a’u hasesu ar gyfer eu blaenoriaethu.