Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 25 Mawrth 2026
Cyhoeddwyd adroddiad crynodeb o'r ymgynghoriad ar y dudalen hon ar 6 Gorffennaf 2026. Mae'r adroddiad crynodeb yn dilyn y wybodaeth wreiddiol am yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 20 Chwefror a 25 Mawrth 2026.
Gwybodaeth wreiddiol
Wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd mae’n hanfodol bod y materion, cyfleoedd a’r heriau y mae Ynys Môn yn eu hwynebu a chwmpas y CDLl newydd yn cael eu nodi yn gynnar yn y broses. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi paratoi dogfen ymgynghori ar y weledigaeth, amcanion ac opsiynau er mwyn cael barn rhanddeiliaid yn gynnar yn y broses.
Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi:
- crynodeb o’r prif faterion, heriau a chyfleoedd y mae’r ynys yn eu hwynebu
- fersiwn drafft, ac amcanion drafft, i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r weledigaeth ddrafft
- amlinelliad o’r trywydd arfaethedig ar gyfer pob maes polisi allweddol
- cyfres o opsiynau twf (cwmpasu faint o ddatblygu sydd ei angen)
- tri opsiwn gofodol (cwmpasu lle y dylid lleoli datblygiadau)
Mae adroddiad cychwynnol ar yr arfarniad cynaliadwyedd integredig hefyd wedi cael ei baratoi sy’n cyflwyno:
- dadansoddiad cydnawsedd o amcanion drafft y CDLl ac amcanion yr arfarniad cynaliadwyedd integredig.
- arfarniad o’r senarios tyfiant ac opsiynau gofodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Dydd Gwener 20 Chwefror 2026 a Dydd Mercher 25 Mawrth 2026.
Rhaid cyflwyno sylwadau cyn 5pm, Ddydd Mercher 25 Mawrth 2026.
Mae’r ddogfen gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gael ar wefan y cyngor drwy’r porth ymgynghori.
Ewch i’r ymgynghoriad – mae’r ddolen hon yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Dyma’r dull a ffefrir ar gyfer cyflwyno sylwadau.
Copi papur
Mae copïau papur o’r ddogfen ymgynghori ar y Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau hefyd ar gael yn y lleoliadau hyn:
- Pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
- Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni
- Llyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Ynys Môn
Cyswllt â ni
Ebost: polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru
Ffôn: 01248 751 808
Adroddiad cryno
Cyhoeddwyd ar y wefan hon 6 Gorffennaf 2026.
Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd themâu allweddol a’r ‘prif negeseuon sy’n codi o’r ymgysylltiad hwnnw fydd yn ffurfio cyfeiriad strategol newydd y CDLl Ynys Môn newydd.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.