Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Tachwedd 2024
Gwybodaeth wreiddiol
Mae'r rhaglen Lle Da yn cyd-fynd â'r strategaeth ar gyfer gwella canol trefi Ynys Môn, a gymeradwywyd gan Gabinet y Cyngor ym mis Medi 2023.
Yn ogystal, mae'n ategu ymdrechion parhaus Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan atgyfnerthu ymdrechion adfywio ar draws yr Ynys ymhellach.
Mae eich adborth yn bwysig
Bydd eich adborth fel preswylydd neu berchennog busnes canol tref yn llywio'r ddogfen gwaelodlin yn ogystal â chynlluniau creu lleoedd yn y dyfodol.
Mae'r arolygon yn gyflym ac yn hawdd i'w cwblhau ac ni ddylent gymryd mwy na 5 munud i chi.
Bydd eich barn, eich profiadau a'ch mewnwelediadau yn amhrisiadwy i ni wrth i'r swyddogaeth adfywio barhau i ysgogi ffyniant i drefi Ynys Môn.
Po fwyaf o drigolion yr ydym yn clywed ganddynt, gorau oll.
Holiadur preswylwyr
Fel rhan o'n harolwg canol trefi, mae gennym holiadur ar-lein ar gyfer trigolion.
Os ydych hefyd yn berchennog busnes yn Ynys Môn, cwblhewch yr holiadur busnes hefyd.
Ewch i'r holiadur preswylwyr - linc yn agor tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Holiadur busnes
Fel rhan o'n harolwg canol trefi, mae gennym holiadur ar-lein ar gyfer perchnogion busnes.
Os ydych chi hefyd yn breswylydd ar Ynys Môn, cwblhewch yr holiadur preswylwyr hefyd.
Ewch i'r holiadur busnes - linc yn agor tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Dyddiad cau
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 28 Tachwedd 2024.
Copïau papur
Mae copïau papur o'r holiaduron ar gael yn:
- Llyfrgell Caergybi, Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH
- Llyfrgell Llangefni, Stryd y Felin, Llangefni, LL77 7RT
- Amlwch Library, Parys Road, Amlwch, LL68 9AB
- Llyfrgell Porthaethwy, Stryd Wood, Porthaethwy, LL59 5AS
- Llyfrgell Biwmares, Lôn Ysgol Ramadeg, Biwmares, LL58 8AL
- Canolfan Fusnes Môn, Llangefni, LL77 7XA
- Swyddfeydd Cyngor Ynys Môn, Llangefni, LL77 7TW
Gwiriwch amseroedd agor eich llyfrgell leol.
Eich data a'ch preifatrwydd
Cyngor Sir Ynys Môn sy'n rhedeg yr arolwg. Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif, a bydd unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei chadw'n ddiogel.
Mae gennych hawl i wybod sut mae gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei defnyddio gennym ni.
Cwestiynau pellach
Os oes angen unrhyw help arnoch neu os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu â ni ar adfywioregen@ynysmon.llyw.cymru