Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Hyfforddi a Datblygu 2026 i 2027


Sut rydym ni'n gwneud yr hyn rydym ni'n ei wneud

Ein gweithlu a sut rydym ni'n cefnogi eu rolau proffesiynol

Mae Tîm Dysgu a Datblygu (D&D) yr awdurdod yn cefnogi cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer y sector corfforaethol (y cyngor) yn ogystal â'r sector gofal cymdeithasol sydd yn cynnwys grwpiau partneriaeth. 

Fel rhan o'r rôl o gefnogi y sector gofal cymdeithasol mae'r tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru (PDGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol yr awdurdod yn ogystal â'r bartneriaeth gofal cymdeithasol ehangach yn Ynys Môn. 

Mae aelodaeth o’r bartneriaeth PDGCC yn cynnwys yr awdurdod lleol, y sector annibynnol a gwirfoddol, darparwyr gofal cymdeithasol (gofal cartref a phreswyl) a phartneriaid sy'n cydweithio i gynorthwyo'r sector i ddatblygu gweithlu sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau priodol i gwrdd â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau  uniongyrchol). 

Y meysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir yw'r rheini a nodir yng nghylchlythyr blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio'r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i'w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau heblaw y rhai a nodir yn y llyfryn hwn. 

Fel tîm, rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol a allai fod gennych ac i gael sylwadau am y ddarpariaeth. Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y rhain gyda chi. 

Sut i gysylltu â ni

Tîm Dysgu a Datblygu 
Uned Adnoddau Dynol Pencadlys
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW 

Ffôniwch 01248 750 057 neu e-bostiwch Gweithlugofal@ynysmon.llyw.cymru 

Cefnogaeth

Yn dilyn y casgliad llwyddiannus o anghenion hyfforddiant gan y Gwasanaethau Oedolion, Plant  a Theuluoedd, Iechyd Meddwl, Darparu, Gofalwyr Maeth a'n Partneriaid, mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi creu'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu canlynol ar gyfer 2026 i 2027.

Bydd gwybodaeth manwl am y cyrsiau fel dyddiadau, amseroedd, nodau, amcanion a lleoliad, yn cael eu rhannu gyda’r gynulleidfa darged unwaith y cytunir ar y trefniadau a’i rhoi ar waith.

Os hoffech drafod unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol sydd gennych chi neu'ch sefydliad, cysylltwch â'r tîm.

Os oes gennych ddiddordeb mynychu hyfforddiant sydd heb ei gynnwys yn y cynllun presennol anfonwch e-bost atom.

Digwyddiadau hyfforddi

Manylion Cyswllt

Elen Pritchard

Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol    ElenPritchard@ynysmon.llyw.cymru
Maria Jones Cydlynydd Dysgu Ymarfer 01248 752935 Mariajones@ynysmon.llyw.cymru
Linette Gwilym Swyddog Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol   LinetteGwilym@ynysmon.llyw.cymru
Laura Jones

Swyddog Hyfforddiant AD

   LauraJones@ynysmon.llyw.cymru

Lois Thomas

Swyddog Hyfforddiant Cynorthwyol    LoisThomas@ynysmon.llyw.cymru
Helen Hughes  Swyddog Cefnogi Busnes AD (Hyfforddiant) 01248 752986  Helenhughes@ynysmon.llyw.cymru

Cynllun hyfforddiant 2026 i 2027

  • Diogelu - Grŵp B
  • Diogelu - Grŵp C
  • Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)
  • Deddf Galluedd Meddyliol
  • ATAL
  • Gofyn a Gweithredu
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Llinellau Cyffuriau
  • Rheolaeth drwy Orfodaeth
  • Caethwasiaeth Fodern
  • Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant
  • Glendid Bwyd
  • Diogelwch Tân
  • Marsial Tân
  • Iechyd a Diogelwch
  • Symud a Thrin, Pasbort A-F
  • Cymorth Cyntaf
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Meddyginiaeth
  • Asesu Risg
  • Diogelwch Personol
  • Atal Haint
  • Cofnodi ac Adrodd
  • Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
  • Parch – RESPECT
  • Gwaith Stori Bywyd
  • Plant mewn Gofal
  • Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol
  • Gweithio gyda Phobl Ifanc sy'n Ceisio Lloches ar eu Pen eu Hunain
  • Gweithio gyda Throseddwyr Cam-drin Domestig
  • AIMS – Ymddygiad Rhywiol Niweidiol
  • Hyfforddiant Ymchwilio ar y Cyd
  • Sicrhau’r Dystiolaeth Orau
  • Adroddiadau Llys a Thribiwnlysoedd
  • Sgiliau Llys
  • Ymwybyddiaeth Amrywiaeth
  • Gwrth-Hiliaeth
  • Niwroamrywiaeth
  • Goruchwyliaeth
  • Makaton
  • Ymwybyddiaeth Epilepsi
  • Ymwybyddiaeth Clefyd Siwgr
  • Delio â Sefyllfaoedd Heriol
  • Cysylltiadau a Gwytnwch
  • Datblygiad Plentyn
  • Cyfathrebu Cydweithredol
  • Cyfathrebu Cydweithredol i fentoriaid
  • Ymarfer Gwybodaeth am Trawma
  • Therapi Chwarae
  • Siwrnai Bywyd
  • Mwy na Geiriau
  • Cam-drin Plant Rhieni Gofalwyr
  • Penset Realiti Rhithiol
  • Hyfforddi’r Hyfforddwr Penset Realiti Rhithiol

Yn ogystal a cyfwerth y cyrsiau nodir o dan plant a phobl ifanc:

  • Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol
  • Celcio
  • Technegau Tawelu
  • Ymwybyddiaeth Hunanladdiad
  • Ffiniau Personol a Phroffesiynol
  • Gofal Iechyd Parhaus (CHC)
  • Deddf Galluedd Meddyliol
  • Galar a Cholled

Yn ogystal â’r cyrsiau perthnasol nodir o dan oedolion:

  • Colled Synhwyrau
  • Ymwybyddiaeth Strôc
  • Gofal Diwedd Oes
  • Cefnogaeth Actif
  • Clefyd Parkinson’s
  • Gofal Stoma a Cathetr
  • Gofal Personol
  • Rheoli Dolur Pwysau
  • Gwerth ac Urddas
  • Gofal y Geg
  • Dementia *Cysylltwch am fwy o wybodaeth
  • Cofnodi
  • Gofal mwy Diogel a Rheoli Honiadau
  • Diogelu – Gofalwyr Maeth
  • Gweithio gyda Theuluoedd Biolegol (Cyswllt)
  • Camdriniaeth Domestig
  • Datblygiad Plant
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Byw â Phobl Ifanc yn eu Harddegau
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Mwy na Geiriau
  • Siwrnai Bywyd
  • Ymwybyddiaeth trawma
  • Iechyd Meddwl ar gyfer staff
  • Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr
  • Ymwybyddiaeth Pryder
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Gwytnwch
  • Sesiynau cymorth Modiwlau Mandadol
  • Troseddau Seibr
  • Galluoedd Digidol mewn Gofal Cymdeithasol
  • Diogelwch Rhyngrwyd
  • Diogelwch Seibr

* Bydd lefel y cymhwyster y gallwch ymgymryd ag ef yn dibynnu ar eich swydd. Siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Lefel 3
  • Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4
  • Paratoi am Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4
  • Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5
  • Diploma Ymwybyddiaeth Trawma
  • TystAU Ymarfer Gofal Cymdeithasol (K102 / K123)
  • Porth Agored

* Mae mynediad i'r cymwysterau yma yn gyfyngedig, bydd pob cais yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Siaradwch â'ch rheolwr llinell i gychwyn.

  • Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
  • PRE AMHP (Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol a gymeradwywyd ymlaen llaw
  • AMHP (Ymarferydd Iechyd Meddwl wedi’i gymeradwyo)
  • TMDP (Rhaglen Datblygiad Rheolwr Tîm)
  • MMDP (Rhaglen Datblygiad Rheolwr Canol)
  • Rhaglen Datblygu Rheolwr Canol Uchelgeisiol
  • Dyfarniad Addysgu Ymarfer
  • Aseswr Budd Gorau
  • Cam-fanteisio
  • Cyfathrebu Cydweithredol
  • Cwblhau Adroddiadau Llys a Thribiwnlysoedd
  • Gofal Iechyd Parhaus
  • Sgiliau Llys
  • Gwneud Defnydd Effeithiol o Oruchwyliaeth
  • Deddf Galluedd Meddyliol a DOLS
  • Gallu Meddyliol a Sut i Ymgymryd ag Asesu
  • Diogelwch Personol Mewn Gwaith Cymdeithasol
  • Cofnodi ac Adrodd
  • Ymarfer a Dadansoddi Myfyriol
  • Diogelu
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Gofyn a Gweithredu
  • Gweithio gydag unigolion a theuluoedd heriol, anodd neu anodd eu cyrraedd
  • Niwroamrywiaeth
  • Mwy na Geiriau
  • Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Trawma Dirprwyol
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.