Sut rydym ni'n gwneud yr hyn rydym ni'n ei wneud
Ein gweithlu a sut rydym ni'n cefnogi eu rolau proffesiynol
Mae Tîm Dysgu a Datblygu (D&D) yr awdurdod yn cefnogi cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer y sector corfforaethol (y cyngor) yn ogystal â'r sector gofal cymdeithasol sydd yn cynnwys grwpiau partneriaeth.
Fel rhan o'r rôl o gefnogi y sector gofal cymdeithasol mae'r tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru (PDGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol yr awdurdod yn ogystal â'r bartneriaeth gofal cymdeithasol ehangach yn Ynys Môn.
Mae aelodaeth o’r bartneriaeth PDGCC yn cynnwys yr awdurdod lleol, y sector annibynnol a gwirfoddol, darparwyr gofal cymdeithasol (gofal cartref a phreswyl) a phartneriaid sy'n cydweithio i gynorthwyo'r sector i ddatblygu gweithlu sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau priodol i gwrdd â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau uniongyrchol).
Y meysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir yw'r rheini a nodir yng nghylchlythyr blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio'r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i'w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau heblaw y rhai a nodir yn y llyfryn hwn.
Fel tîm, rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol a allai fod gennych ac i gael sylwadau am y ddarpariaeth. Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y rhain gyda chi.
Sut i gysylltu â ni
Tîm Dysgu a Datblygu
Uned Adnoddau Dynol Pencadlys
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Ffôniwch 01248 750 057 neu e-bostiwch Gweithlugofal@ynysmon.llyw.cymru
Cefnogaeth
Yn dilyn y casgliad llwyddiannus o anghenion hyfforddiant gan y Gwasanaethau Oedolion, Plant a Theuluoedd, Iechyd Meddwl, Darparu, Gofalwyr Maeth a'n Partneriaid, mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi creu'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu canlynol ar gyfer 2025 i 2026.
Bydd gwybodaeth manwl am y cyrsiau fel dyddiadau, amseroedd, nodau, amcanion a lleoliad, yn cael eu rhannu gyda’r gynulleidfa darged unwaith y cytunir ar y trefniadau a’i rhoi ar waith.
Os hoffech drafod unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol sydd gennych chi neu'ch sefydliad, cysylltwch â'r tîm.
Os oes gennych ddiddordeb mynychu hyfforddiant sydd heb ei gynnwys yn y cynllun presennol anfonwch e-bost atom.
Digwyddiadau hyfforddi
Cynllun hyfforddiant 2025 i 2026
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.