Cyngor Sir Ynys Môn

Cynghorau tref a chymuned


Mae cynghorau tref a chymuned yn cynrychioli cymunedau neu drefi unigol o fewn sir. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol i ddarparu rhai gwasanaethau, ond mae ganddynt lai o ddyletswyddau na chynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (sy’n cael eu hadnabod hefyd fel awdurdodau lleol).

Mae’n rhaid i’r cynghorau weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r gwasanaethau a’r canlyniadau gorau ar gyfer dinasyddion.

Yn lleol mae 40 o gynghorau tref a chymuned yn gwasanaethu cymunedau Ynys Môn, mae manylion cyswllt y cynghorau unigol ar gael ar ein gwefan.

Manylion cyswllt cynghorau tref a chymuned - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Siarter cymuned ar y cyd

Mae’r siarter yn nodi sut y bydd cynghorau tref a chymuned a Chyngor Sir Ynys Môn yn cydweithio er lles cymunedau lleol tra’n cydnabod eu priod gyfrifoldebau. Mae’n seiliedig ar bartneriaeth gyfartal ac mae copi o’r siarter ar gael fel PDF i'w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.

Fforwm cyswllt

Cyfarfodydd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a chynghorau tref a chymuned yr ynys yw’r Fforwm Cyswllt. Prif bwrpas y fforwm yw hwyluso cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ac arferion da.

Anelir at gynnal pedwar cyfarfod cyswllt pob blwyddyn ariannol gyda chynrychiolwyr pob cyngor tref a chymuned sy’n dymuno cymryd rhan.

Am unrhyw fanylion eraill ynglŷn a’r Fforwm Cyswllt, cysylltwch â polisi@ynysmon.llyw.cymru

Un Llais Cymru

Un Llais Cymru yw’r prif gorff ar gyfer cynghorau tref a chymuned Cymru, ac mae’n sicrhau llais cryf i gynrychioli diddordebau’r cynghorau, a darparu ystod o wasanaethau i gefnogi eu gwaith.

Mae eu haelodau’n elwa o:

  • Cyngor cyfreithiol o safon
  • Cyngor ar wella darpariaeth gwasanaethau
  • Hyfforddiant
  • Materion polisi
  • Cylchlythyr a gwefan 

Hoffwch fod yn gynghorydd?

  • Oes yno rywbeth hoffwch newid am eich cymuned leol?
  • Oes rhywbeth yn achosi pryder arnoch am eich cymuned lleol?
  • Ydych yn gallu gwneud penderfyniadau heriol?

Mae cynghorwyr yn bobl sy’n cael eu hethol i gynrychioli eu cymuned yn dilyn etholiad. Gall gynghorwyr weithredu ar gyngor sir neu bwrdeistref sirol, fel Cyngor Sir Ynys Môn, neu fel rhan o gyngor tref a chymuned.

Ar ôl cael eich ethol yn gynghorydd, gallwch gynrychioli’r bobl yn eich cymuned a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Gall fod yn rôl heriol iawn, ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd os ydych yn angerddol am eich cymuned.

Darganfod mwy - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.