Cyngor Sir Ynys Môn

Bod yn gynghorydd


Mae bod yn gynghorydd ar Ynys Môn yn caniatáu i chi helpu a gwella eich cymuned leol. Defnyddio eich angerdd a’ch cymhelliad i wireddu newid gwirioneddol!

Beth yw cynghorydd?

Mae Cynghorwyr yn bobl sy’n cael eu hethol i gynrychioli eu cymuned yn dilyn etholiad. Mae yna gynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned.

Ar ôl cael eich ethol yn gynghorydd, gallwch gynrychioli’r bobl yn eich cymuned a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Gall fod yn rôl heriol iawn, ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd os ydych yn angerddol am eich cymuned.

Gwrandewch a gwyliwch gynghorwyr yn rhannu eu profiadau.

Darganfod mwy

Mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wefan am fod yn gynghorydd. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am beth mae cynghorwyr yn ei wneud, pa gymorth y maent yn ei dderbyn a sut i ddod yn gynghorydd.

Mae’n cynnwys casgliad o fideos ac astudiaethau achos hefyd.

Byddwch yn Gynghorydd Cymru

Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru

Sefydlwyd Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru er mwyn ceisio dileu’r rhwystrau bydd pobl anabl yn wynebu wrth ymgeisio am swyddi etholedig, wrth ddarparu help ariannol gyda chostau addasiadau a chymorth rhesymol.  Gweinyddir y Gronfa gan Anabledd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.