Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cronfa Adfywio Gogledd Ynys Môn


Mae'r cynllun hwn bellach wedi cau

Gwybodaeth wreiddiol

Gellir gwneud cais am grantiau bach o hyd at £7,500 i helpu busnesau a grwpiau cymunedol yn wardiau Talybolion a Thwrcelyn, a chymuned Moelfre tuag at brosiectau neu ddigwyddiadau y gellir eu cyflawni erbyn 31 Mawrth 2023.  Rhaid i’r prosiectau cyd-fynd â Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor.

Bydd un rownd gyda cyfanswm o £50,000.  Cynigir y grantiau ar gyfradd ymyraeth o 75%; disgwylir ymrwymiad o 25% o gyfanswm cost y prosiect gan yr ymgeisydd.  Bydd cyrfaniad ‘mewn nwyddau’ yn cael ei ystyried mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft ceisiadau gan grwpiau cymunedol.

Dyddiad cau: 10 Chwefror 2023

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.