
Rhaglen Ynys Môn wedi cau
Mae Rhaglen Creu Lleoedd Lle Da Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU ar gyfer Ynys Môn bellach wedi cau.
Nid yw’r rhaglen bellach yn derbyn ceisiadau, cynigion prosiect na cheisiadau newydd am gefnogaeth ariannol.
Mae’r dudalen we hon yn parhau i fod ar gael i ddarparu gwybodaeth am y rhaglen, ei gweithgareddau a’i chyfraniad at adfywio a chreu lleoedd ar hyd a lled Ynys Môn.
Mae hefyd yn darparu dolenni i strategaethau, cynlluniau a chynlluniau adfywio cysylltiedig sy’n parhau i gefnogi canol trefi a phentrefi ar hyd a lled yr ynys.
Cwestiynau ynglŷn ag adfywio a chreu lleoedd
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn ag adfywio a chreu lleoedd, cysylltwch â Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn trwy adfywioregen@ynysmon.llyw.cymru
Cefnogi adfywio a ffyniant canol trefi a phentrefi Ynys Môn
Yn dilyn cyflwyno cais llwyddiannus am gyllid, sicrhaodd tîm adfywio Cyngor Sir Ynys Môn gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU. Mae’r arian hwn yn cefnogi rhaglen creu lleoedd a ddyluniwyd i wella a chryfhau canol trefi ledled yr ynys.
Mae’r rhaglen yn alinio â Strategaeth Wella Canol Trefi'r Cyngor 2023 i 2028 ac mae’n ategu cynlluniau adfywio ehangach ar draws Ynys Môn, gan gynnwys Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU. Gyda’i gilydd mae’r cynlluniau hyn yn cefnogi adfywio, gwytnwch a ffyniant hir dymor cymunedau ledled yr ynys.
Amcanion allweddol
Mae’r rhaglen yn cefnogi ystod o weithgareddau creu lleoedd ac adfywio, yn cynnwys:
- gwireddu cam cyntaf y Rhaglen Creu Lleoedd, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar y pum prif canol tref ar Ynys Môn
- cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau creu lleoedd ar gyfer y canol trefi a ddewiswyd a thystiolaeth sylfaen ar gyfer y pum tref ar yr ynys. Dylid darllen y dogfennau hyn ochr yn ochr â’r Strategaeth Gwella Canol Trefi 2023 i 2028
- gwella’r amgylchedd trefol, cyfleusterau a mannau cyhoeddus mewn canol trefi ac aneddiadau eraill ar draws Ynys Môn
- hyrwyddo ailfeddiannu eiddo gwag a chefnogi gwaith i wella blaenau siopau ac eiddo masnachol
- gweithio gyda chynghorau tref a chymuned i annog a hwyluso prosiectau adnewyddu dan arweiniad y gymuned
- darparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau marchnata, digwyddiadau hyrwyddo a gwelliannau gweledol sy’n cynorthwyo i adfywio mannau cyhoeddus a masnachol
Ardaloedd ffocws a chwmpas y rhaglen
Roedd prif ffocws y rhaglen Lle Da ar brif ganolfannau trefol Ynys Môn:
- Caergybi
- Llangefni
- Amlwch
- Porthaethwy
- Biwmares
Mae’r lleoliadau hyn yn bwysig o ran cefnogi busnesau lleol, cynnal gwasanaethau a chyfrannu at lesiant cymunedol ar hyd a lled yr ynys.
Yn ogystal, fe wnaeth nifer o brosiectau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wireddu buddion ar draws Ynys Môn a chyrraedd tu hwnt i’r aneddiadau trefol a restrir uchod.
Cynlluniau creu lleoedd a thystiolaeth
Elfen allweddol o’r rhaglen yw datblygu cynlluniau creu lleoedd pwrpasol ar gyfer y canol trefi a ddewiswyd a pharatoi tystiolaeth sylfaen ar gyfer pum prif dref yr ynys.
Mae’r dogfennau hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth o gryfderau, heriau a chyfleoedd lleol ac maent yn cynorthwyo i lywio blaenoriaethau adfywio, penderfyniadau buddsoddi a chynlluniau creu lleoedd yn y dyfodol.
Maent yn darparu sail dystiolaeth bwysig ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol a dylid eu darllen ochr yn ochr â’r Strategaeth Gwella Canol Trefi 2023 i 2028.
Gwireddu prosiectau a gwaith partneriaeth
Tîm bychan o fewn swyddogaeth Datblygu Economaidd y cyngor oedd yn gyfrifol am wireddu’r rhaglen Lle Da, gyda chymorth nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid.
Bu’r cyngor yn cydweithio’n agos â sefydliadau megis Menter Môn, MônCF a chynghorau tref lleol i wireddu’r rhaglen. Roedd y dull cydweithredol hwn yn cynorthwyo i sicrhau fod prosiectau’n ymateb i anghenion lleol wrth gefnogi amcanion datblygu cymunedol tymor hwy.
Roedd gwaith partneriaeth yn elfen allweddol o’r rhaglen ac roedd yn cynorthwyo i wneud y mwyaf o effaith, cynaliadwyedd a gwaddol gweithgarwch adfywio ledled Ynys Môn.
Prif elfennau’r rhaglen
Roedd y rhaglen yn cynnwys nifer o weithgareddau a ddyluniwyd i wella apêl, bywiogrwydd a chynaliadwyedd hirdymor canol trefi.
Maent yn cynnwys:
- gwella amgylchedd priffyrdd a strydoedd
- grantiau i gefnogi digwyddiadau, gweithgareddau a gwelliannau yng nghanol trefi
- arolygon, asesiadau a chynlluniau’n gysylltiedig â safleoedd ac adeiladau gwag, safleoedd ac adeiladau sy’n cael eu tanddefnyddio neu’n flêr
- grantiau gwella eiddo masnachol oedd yn cynorthwyo i wella eiddo yng nghanol trefi a chefnogi amcanion adfywio
- asesiadau sylfaen a gweithgareddau creu lleoedd sy’n cynorthwyo i ddylanwadu ar flaenoriaethau ar gyfer canol trefi ar draws Ynys Môn yn y dyfodol
Cefnogi busnesau Môn
Fel rhan o raglen ehangach y Gronfa Ffyniant Gyffredin, bu’r tîm Lle Da yn cynorthwyo i gynllunio ac ariannu’r cynllun ‘Paentio’r Dre’ o dan arweiniad Môn CF, er mwyn gwella edrychiad eiddo canol tref, yn ogystal â darparu grantiau busnes bach i fusnesau yng nghanol trefi a phentrefi.
Cyfraniad cymunedau a busnesau
Roedd annog cydweithio cryf rhwng cymunedau lleol, busnesau, cynghorau tref a rhanddeiliaid eraill yn un o egwyddorion craidd y rhaglen Lle Da.
Trwy gefnogi cysylltiadau agos a gwaith partneriaeth, roedd y rhaglen yn cynorthwyo i sicrhau fod gwelliannau, prosiectau a blaenoriaethau creu lleoedd yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion lleol, gwybodaeth leol a dyheadau cymunedau.
Roedd y dull hwn o weithio’n cefnogi synnwyr o berchnogaeth leol ac mae’n helpu cymunedau i gyfrannu at gynllunio dyfodol eu canol trefi. Roedd yn cyfrannu hefyd at baratoi cynlluniau creu lleoedd sy’n cael eu llywio gan randdeiliaid lleol a’u gwreiddio mewn blaenoriaethau lleol.
Roedd y rhaglen hefyd yn cefnogi gweithgarwch economaidd lleol trwy gynorthwyo busnesau i greu lleoedd masnachol mwy deniadol a defnyddiol. Roedd hyn yn cyfrannu at apêl weledol canol trefi yn ogystal â chefnogi cynaliadwyedd economaidd yn y tymor hwy ac annog buddsoddiad yn y dyfodol.
Cynaliadwyedd ac effaith hirdymor
Roedd y Rhaglen Creu Lleoedd Lle Da yn gosod cynaliadwyedd wrth galon gweithgarwch adfywio. Roedd prosiectau unigol yn ystyried lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor cymunedau Ynys Môn.
Roedd y rhaglen yn hyrwyddo gwelliannau sy’n creu lleoedd deniadol, bywiog a chynaliadwy i fyw, gweithio ac i ymweld â nhw.
Mae’r amcanion hyn yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach y cyngor i leihau effeithiau amgylcheddol a chefnogi economi leol fwy gwyrdd a gwydn.
Mae paratoi cynlluniau creu lleoedd a thystiolaeth ategol hefyd yn darparu fframwaith strategol y gellir ei ddefnyddio fel canllaw i lywio buddsoddiadau cyhoeddus a phreifat yn y dyfodol a chefnogi gweithgareddau adfywio a chreu lleoedd am flynyddoedd i ddod.
Monitro a gwerthuso
Roedd fframwaith monitro ac arfarnu’n cefnogi’r rhaglen ac roedd yn cynnwys adolygiadau rheolaidd yn erbyn dangosyddion ac amcanion cytunedig.
Roedd gwerthuso allanol hefyd yn rhan o broses werthuso ehangach Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Ynys Môn. Mae hyn yn cynorthwyo i asesu effaith y rhaglen, gwerth am arian, p’un a gafodd y canlyniadau arfaethedig eu cyflawni a gwersi a allai lywio cynlluniau adfywio yn y dyfodol.
Gwaddol a gweithgarwch adfywio yn y dyfodol
Er bod y Rhaglen Creu Lleoedd Lle Da oedd yn cael ei hariannu o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi dod i ben, mae’r wybodaeth, tystiolaeth, partneriaethau a’r dull creu lleoedd a ddatblygwyd trwy’r rhaglen yn parhau i fod yn werthfawr.
Mae’r rhaglen yn cynorthwyo i sefydlu sylfaen ar gyfer gweithgareddau adfywio yn y dyfodol trwy nodi blaenoriaethau, cryfhau partneriaethau, cynorthwyo i gynllunio buddsoddiadau a darparu tystiolaeth a all lywio prosiectau a chyfleoedd yn y dyfodol. Defnyddiwyd y dull Lle Da ar gyfer cynllun Cronfa Effaith Balchder Bro i ariannu gwelliannau cyfalaf bach mewn 40 cymuned ledled yr ynys.
Mae’r gwersi a ddysgwyd, tystiolaeth a gasglwyd a pherthnasau a sefydlwyd trwy’r rhaglen yn cyfrannu at weledigaeth hirdymor ehangach ar gyfer canol trefi a phentrefi Ynys Môn, a chynorthwyo i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn lleoedd deniadol, bywiog a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gwybodaeth bellach
I gael gwybodaeth bellach ynglŷn â gweithgareddau adfywio a chreu lleoedd, cysylltwch â:
Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, Cyngor Sir Ynys Môn
E-bost: adfywioregen@ynysmon.llyw.cymru
