Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Ynys Môn (SPF)


Ar gau i geisiadau newydd

Diweddaraf

Mae ceisiadau Cam 1 wedi cael eu hasesu bellach a’r ymgeiswyr wedi cael eu hysbysu o’r penderfyniad.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael eu gwahodd ymlaen i baratoi cais manwl Cam 2.

  • Mae’r gronfa bellach wedi cau ac nid oes modd derbyn ceisiadau.
  • Daeth yr alwad gyntaf am brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yng Ngogledd Cymru i ben ar 24 Chwefror 2023.
  • Cyflwynwyd cyfanswm o 87 cais am gyfanswm o dros £80m a oedd yn enwi Ynys Môn fel lleoliad cyflawni targed.  Roedd y galw am arian yn sylweddol uwch na'r hyn sydd ar gael i Ynys Môn ac yn anffodus roedd hyn yn golygu nad oedd yn bosib cefnogi nifer o brosiectau sydd yn newyddion siomedig iawn i nifer o sefydliadau.

Gwybodaeth wreiddiol

Mae’r alwad gyntaf am brosiectau UKSPF yng Ngogledd Cymru bellach yn fyw a bydd yn parhau ar agor tan hanner dydd ar 24 Chwefror 2023. Darllenwch yr adrannau isod am ragor o fanylion.

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa yw:

Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa a gellir ei weld yn: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy  

Mae’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r Gronfa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael oddi wrth: https://www.gov.uk/government/collections/new-levelling-up-and-community-investments

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Ynys Môn

Bydd pob rhan o’r DU yn cael rhywfaint o’r cyllid, sy’n cael ei ddyrannu i ardaloedd unigol yn seiliedig ar fformiwla wedi ei bendefynnu gan Llywodraeth y DU. Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno'r Gronfa.

Yng Nghymru, rhaid i ardaloedd lleol weithio gydag eraill o fewn eu rhanbarth i ddarparu'r Gronfa. Mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae cyfanswm o £126.46[i] miliwn wedi'i ddyrannu o'r UKSPF i Ogledd Cymru. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £21.84 i miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).

Mae’r dyraniad ar gyfer pob ardal Awdurdod Lleol unigol fel a ganlyn:

  • Ynys Môn: £16,081,937
  • Gwynedd: £24,423,747
  • Conwy: £24,520,120
  • Sir Ddinbych: £25,647,958
  • Fflint: £13,102,933
  • Wrecsam: £22,684,205

Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfalaf a refeniw ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.

Ar 5 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yr arian yn dod i Ogledd Cymru, ond dim ond am un flwyddyn ariannol ar y tro y bydd yr arian yn cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.

Cyflawni'r UKSPF Cymru ar Ynys Môn

Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, bydd Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weinyddu'r UKSPF. Fodd bynnag, bydd y penderfyniad ar ble mae'r arian yn mynd yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i gefnogi sefydliadau i gyflawni prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lleol.

Mae’r cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau am gyllid bellach ar agor a bydd yn cau am hanner dydd ar 24 Chwefror 2023. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd yn y dyfodol i gyflwyno ceisiadau os bydd arian yn parhau i fod ar gael.

Awdurdodau Lleol fydd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian tra’n derbyn sylwadau gan y Grŵp Partneriaeth SPF Ynys Môn.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol neu fwy. Bydd pob ardal yn penderfynu a ydynt am gefnogi cais neu ddim.

Yr hyn y bydd yr UKSPF yn ei gefnogi

Amlinellir yr amcanion ar gyfer tair blaenoriaeth buddsoddi'r UKSPF – cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau – ym Mhrosbectws yr UKSPF.

Ar gyfer Cymru, caniateir 53 o ymyriadau UKSPF sy’n cwmpasu’r tair blaenoriaeth fuddsoddi a’r rhaglen Lluosi: Rhestr Ymyriadau ar gyfer Cymru.

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i'r afael ag un, neu fwy, o'r ymyriadau hyn .

Rhaid i bob prosiect hefyd gyflawni un neu fwy o’r allbynnau a’r canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU:

Pethau pwysig i'w gwybod

  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno'u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024 , er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.
  • O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, byddwn yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF.
  • I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau Awdurdodau Lleol unigol pan fydd ar gael.  Plîs peidiwch a rhoi cais i mewn ar gyfer cronfeydd cyfryngol yn y broses hon.
  • Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i wariant y tu hwnt i’r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
  • Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau lle’n briodol. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
  • Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn: https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime
  • O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy’n ymgeisio.

Dewis prosiectau

 Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol, gan ystyried sylwadau gan y Grŵp Partneriaeth UKSPF Ynys Môn.  Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Llywodraeth Leol drwy’r Bwrdd Rhaglen UKSPF Ynys MônBydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:

  • alinio cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth yr UKSPF;
  • allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
  • ychwaneged ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
  • y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu'r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
  • aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.

Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi'r UKSPF.

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF ar Ynys Mô Ngogledd Cymru yn dilyn proses dau gam, sydd yn gyson ar draws y Rhanbarth:

Cam 1 : cyflwyno cais prosiect amlinellol

Cam 2 : cyflwyno cais prosiect manwl

Byddwn yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2.

I gyflwyno cais prosiect amlinellol cam 1

Ystyriwch gymhwysedd eich cynnig drwy adolygu ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau'r UKSPF a’i aliniad ag anghenion a dyheadau’r ardal/ardaloedd yr ydych yn dymuno gweithredu ynddynt. 

Darllenwch y canllawiau ar gyfer cyflwyno cais prosiect amlinellol cam 1 a chasglwch yr holl wybodaeth sy'n ofynnol drwy adolygu’r fersiwn all-lein o'r ffurflen gais cam 1 (darperir y fersiwn all-lein fel dogfen y gellir ei golygu i’ch helpu i baratoi).

Dilynwch y ddolen i ffurflen ar-lein i gwblhau a chyflwyno eich cais prosiect amlinellol cam 1 cyn hanner dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 (noder mai dim ond ceisiadau a gyflwynir drwy'r porth ar-lein fydd yn cael eu hystyried).

Ar gau i geisiadau newydd.

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau

  • Bydd y cais yn cael ei werthuso gan y tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin lleol perthnasol (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol yn unig) neu dîm rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol).
  • Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
  • Bydd y Grŵp Partneriaeth UK SPF Ynys Môn yn cael trosolwg o’r prosiectau ac yn rhoi eu sylwadau ymlaen i’r Llywodraeth Leol (Bwrdd Rhaglen).
  • Awdurdod / Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau y maent am eu cefnogi
  • Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
  • Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2.
  • Wedi i'r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; asesiadau pellach  a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
  • Awdurdod lleol / awdurdodau yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais
  • Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm, rhanbarthol ar ran awdurdod / awdurdodau lleo yn nodi’r broses hawlio’r grant l.

Wrth gyflwyno cais , byddwch yn awdurdodi’r Cyngor(au) i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU (5 Rhagfyr 2022) bod cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i gymeradwyo. Edrychwn ymlaen at agor y broses ymgeisio unwaith y byddwn wedi derbyn hysbysiad ffurfiol o’r penderfyniad ynglŷn â chyllid a chytundeb grant.

Cafodd y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ar 1 Awst, ers hynny mae chwech awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wneud paratoadau ar gyfer rheoli’r gronfa gan dybio y byddai’r Cynllun yn cael ei dderbyn. Fodd bynnag, dylid nodi bod manylion sut fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu yn parhau’n ansicr. O ganlyniad, bydd Cyngor Sir Ynys Môn - yn unol â’i awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru - ond yn gallu datblygu ceisiadau unwaith y derbyniwyd ac ystyriwyd y manylion gofynnol.

Rydym yn gobeithio lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin Ynys Môn gynted ag y bydd yn ymarferol bosibl, ond yn gwybod y bydd hynny yn fuan yn 2023 ar y cynharaf.

Yn y cyfamser, bydd y wybodaeth ganlynol o ddiddordeb i ymgeiswyr posibl (ac mae’n gyson ar draws Gogledd Cymru):

  • Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor gwneud penderfyniadau lleol.
  • Mae Gogledd Cymru yn ceisio cael proses 2 gam fel y gall ymgeiswyr gael ymdeimlad buan o pa un a yw eu cynnig yn debyg o gael ei gefnogi.
  • Bydd yn cynnwys hyblygrwydd i hwyluso prosiectau sy’n ystyried darparu mewn un Awdurdod Lleol, pob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru neu gyfuniad o Awdurdodau Lleol.
  • Rydym yn rhagweld y bydd ceisiadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol yn fwy mewn graddfa (e.e. gyda gwerth dros £250k). Mae pob ardal leol yn ystyried sefydlu cronfeydd cyfryngol i gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau.
  • Byddwn angen ymrwymo arian yn fuan yn y rhaglen gan fod amser cyflawni yn fyr (erbyn Mawrth 2025).
  • Cyngor presennol i ymgeiswyr posibl yn syml yw peidio aros i’r systemau a’r strwythurau fod ar waith. Gellir gwneud gwaith nawr, gan nad oes unrhyw beth i atal dechrau ymgysylltu â phartneriaid/rhanddeiliaid am weithgareddau posibl i sicrhau eu bod wedi datblygu’n dda gyda chefnogaeth eang pan ddaw’r amser.
  • Anogir holl ymgeiswyr posibl i adolygu’r rhestr o ymyriadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, ynghyd â’u Hallbwn a Deilliannau cysylltiol.